MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Calon Cymru)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Calon Cymru)Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwy-ydd Addysgu
Ysgol Calon Cymru
32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn
Cyfnod Penodol tan 18.07.2025
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 yng nghanol Powys gyda thua 850 o ddisgyblion a chweched dosbarth bywiog - https://www.ysgolcalon.cymru
Rydym yn falch o'n disgyblion ac yn disgwyl iddynt weithio'n galed i gyflawni ac yna rhagori ar eu disgwyliadau. Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu llawn cymhelliant sydd am wneud gwahaniaeth i brofiadau addysg a dysgu ein myfyrwyr.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu ysbrydoledig, creadigol a rhagorol sydd:
• Â phrofiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol; ASD, ADHD ac Anawsterau Dysgu Cyffredinol.
• disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
• Rhaid gallu gweithio ar draws sawl grŵp blwyddyn a chefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu gwahaniaethol
• Meddu ar brofiad o ddefnyddio dulliau amlsynhwyraidd ac ymarferol i atgyfnerthu cysyniadau.
• Ysgogi disgyblion i gynhyrchu eu gwaith gorau gan ddefnyddio canmoliaeth a chefnogaeth briodol.
• Gallu dilyn cyfarwyddiadau ond hefyd defnyddio cymhelliant wrth weithio gyda'r disgyblion.
• Meddu ar ddealltwriaeth dda o feithrin a strategaethau ymddygiad cefnogol.
• Cyfathrebu'n briodol â rhieni, gofalwyr a chydweithwyr yn ogystal â disgyblion.
• Dangos sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
• Gweithio'n dda gyda disgyblion, staff ysgol ac asiantaethau allanol.
• Cefnogi'r plant gyda gweithgareddau allgyrsiol amrywiol.
• Yn fodel rôl cadarnhaol a brwdfrydig i'r disgyblion.
• Yn gweithio'n galed, yn hyblyg ac yn gallu gwneud cyfraniad gweithredol i fywyd yr ysgol.
Mae angen i ymgeiswyr fod yn amyneddgar, yn empathig gan feithrin disgyblion a bod â synnwyr digrifwch. Dylai ymgeiswyr fod yn ymarferwyr myfyriol sy'n gallu newid eu hymagwedd wrth weithio gyda gwahanol ddysgwyr. Tra bo canolbarth Powys yn lle grêt i weithio ynddo y mae hefyd yn lle gwirioneddol grêt i fyw ynddo hefyd gyda chymunedau cyfeillgar, clos ac amgylchedd naturiol prydferth. Mae'n hawdd cydbwyso bywyd a gwaith yma, ac mae gennym gymaint i'w gynnig i'n poblogaeth leol. Mae amrywiaeth eang o gyfleodd chwaraeon, diwylliannol a
chelfyddydol gennym i bob oedran. Mae golff, pysgota, cerdded, seiclo, beicio mynydd, theatrau, sinema a Gŵyl y Gelli a'r Sioe Frenhinol i gyd ar garreg y drws ac mae amrywiaeth eang o glybiau a grwpiau'n bodoli i apelio at wahanol oedran a
diddordebau. Ychydig ymhellach i ffwrdd mae goleuadau llachar Caerdydd, Henffordd, Aberystwyth ac Abertawe ac mae cysylltiadau bws a Rheilffordd Canolbarth Cymru yn gwasanaethu'r ardal i helpu i ddarparu mynediad hawdd.
Dyddiad Cau: 17.11.24
Cyfweliadau I'w cadarnhau
Dyddiad Dechrau Cyn gynted â phosibl
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Vicky Phillips (ALNCo) -
[email protected]