MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £47,340 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Arbenigol Ymyrraeth Gynnar Ymddygiad

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £47,340 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG - ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib

Athro/awes Cynhwysiad Gwynedd a Môn.

Swydd dros dro hyd at flwyddyn o'r penodiad, yn y lle cyntaf (Gellir ystyried Secondiad)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i ymuno a thîm ymroddgar ac eginol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas i gefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiadol ,cymdeithasol ac emosiynol.

Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ar draws Gwynedd ac Ynys Mon mewn ysgolion a chanolfannau. Byddai profiad o gefnogi disgyblion yn y maes cynhwysiad yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae lleoliadau'r swydd yn amrywio oddi fewn Gwynedd ac Ynys Mon a bydd gofyn i'r ymgeisydd deithio i ardaloedd eraill yn achlysurol.

Cyngor Gwynedd fydd y cyflogwr ar gyfer y Gwasanaeth.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) ynghyd a lwfans anghenion addysgol arbennig (£2,585 - £5,098) y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r adran yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach am y swydd gellir cysylltu â Ellen Rowlands, Rheolwr Cynhwysiad ar rif ffôn 01286 679007.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.

DYDDIAD CAU: 10:00 y.b. Dydd Mawrth , 12 o Dachwedd 2024

Cyfweliadau i'w gynnal 20.11.2024.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn benderfynol o leihau'r bwlch i ddysgwyr bregus
Chwaraewr tîm cryf ac effeithiol
Ymroddiad llwyr i roi'r profiadau gorau i ddisgyblion - eu dysgu, eu lles, a'u diogelwch.
Yn gallu gwneud a chyfiawnhau penderfyniadau anodd a rheoli'r broses o newid yn effeithiol.
Yn cyfathrebu yn rhwydd, yn effeithiol ac yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn onest ac yn ddibynadwy, ac yn parchu cyfrinachedd.
Yn hyderus a brwdfrydig.
Yn meddu ar fedrau rhyngbersonol da.
Yn gallu cyd-weithio mewn tîm.
Yn gallu gweithio dan bwysau, gweithio'n hyblyg, a blaenoriaethu'n effeithiol.

DYMUNOL
-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Yn raddedig
▪ Statws Athro Cymwysedig
▪ Tystiolaeth o Ddysgu Proffesiynol Parhaus
▪ Dealltwriaeth o'r system addysg yng Nghymru a pholisïau Llywodraeth Cymru

DYMUNOL

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad llwyddiannus o addysgu
Profiad o weithio gyda disgyblion a phroblemau ymddygiadol/emosiynol
Profiad o hyfforddi a mentora
Profiad o ddatblygu, rheoli, sicrhau a gwerthuso ansawdd prosesau a mentrau i sicrhau canlyniadau da

DYMUNOL

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol a chyfreithiol sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau yn y maes ADY a Chynhwysiad
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion ym maes / gweithdrefnau Diogelu Plant
Gwybodaeth rhagorol o addysgeg effeithiol
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau presenoldeb.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau mewn perthynas â Gwaharddiadau
Dealltwriaeth dda o flaenoriaethau a dulliau gweithredu cyfredol sy'n ymwneud ag anghenion plant a phobl ifanc sydd yn agored i niwed
Gwybodaeth drylwyr o fframwaith adolygu Estyn
Dealltwriaeth drylwyr o reoliadau a gweithdrefnau i ddiogelu disgyblion a staff o fewn y ddarpariaeth cynnal ymddygiad
Dealltwriaeth gadarn o'r ethos a'r gwerthoedd sy'n sicrhau ysgolion cynhwysol a llwyddiannus
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol

DYMUNOL
-

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a Chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed sydd â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.
• Sicrhau gweithrediad yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad drwy'r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
• Byddent yn cyflawni hyn drwy:
• Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn Canolfannau arbenigol.
• Dreulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
• Arwain tîm bach o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion o fewn Canolfannau arbenigol
• Cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
• Gweithredu yn unol â chanllawiau diogelu cadarn

Cyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, Canolfannau a rhieni
• Cynorthwyo'r Arweinydd Addysg Gynhwysol gyda dyletswyddau rheoli llinell y cymorthyddion arbenigol
•m bach o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion.
• Gliniadur a ffôn symudol

Prif Ddyletswyddau
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes ymddygiad, cynhwysiad ac ADY yn gyffredinol.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau ymddygiadol ag emosiynol ar lefel ysgol ac o fewn y Canolfannau arbenigol.
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
• Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r arbenigedd ymddygiad o fewn yr ysgol.
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Fforwm Ardal ADYaCh
• Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith.
• Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion, Canolfannau a rhieni yn y maes anghenion ymddygiad ag emosiynol.
• Cyd ddarparu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion, Canolfannau a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion ymddygiad ag emosiynol.
• Cyd weithio'n agos â'r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiad i weithredu strategaethau cytunedig ar lefel ysgol a Chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer unigolion o fewn ysgolion ac o fewn ein Canolfannau arbenigol.

Prif Ddyletswyddau
• Cydweithio ac ymgynghori rheolaidd gyda'r Rheolwr Cynhwysiad a Uwch Seicolegydd Ymddygiad ar gyfer cynllunio ymyraethau addas ar gyfer y disgyblion, cynllunio hyfforddiant ar gyfer y Tîm ac ar gyfer ysgolion.
• Ymgynghori yn rheolaidd gyda'r Swyddog Ansawdd ADYaCh er mwyn sicrhau fod gwybodaeth gyfredol ynglŷn â chynnydd plant ac anghenion yr ardal o ran ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
• Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff ysgolion ac o ddydd i ddydd cymorthyddion y Canolfannau.
• Cyd weithio ag athrawon arbenigol eraill o fewn y gwasanaeth ADYaCh.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu'n gyson yn ein hysgolion.
• Diweddaru bas data o'r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth.
• Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Fforwm Ardal ADYaCh.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy'n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth Ymddygiad a Chynhwysiad.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

-

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi