MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) Ysgol Gynradd Llanfair-ym-MualltSwydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
1. Goruchwylio disgyblion yn ystod amser cinio a sicrhau eu diogelwch a'u lles.
2. Yn gweithio o dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Uwch Oruchwyliwr Canol Dydd neu rywun dynodedig arall sy'n gyfrifol.
3. Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio rywfaint ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch). Gallai hyn gynnwys bodloni anghenion disgyblion wrth fynd i'r toiled e.e. newid cewynnau/padiau a symud/cario a chodi cysylltiedig. Gallai hyfforddiant priodol a
ddilynir gynnwys rhoi meddyginiaeth, defnyddio EpiPen etc.
4. Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
5. Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
6. Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin a defnyddio offer yn ofalus.
7. Tasgau a Dyletswyddau
• Goruchwylio plant yn y toiled a'r ystafell ymolchi
• Hebrwng plant i'r ystafell fwyta ac yn ôl
• Eu goruchwylio wrth gasglu prydau bwyd a'u cynorthwyo i ddefnyddio cyllyll a ffyrc
• Cynorthwyo'r disgyblion pan fyddant yn dychwelyd platiau, hambyrddau, cyllyll a ffyrc, gwydrau/cwpanau wedi'u defnyddio a chlirio byrddau
• Goruchwylio'r disgyblion sy'n bwyta bwyd cartref a sicrhau bod offer pecynnau cinio'n cael ei glirio i ffwrdd
• Goruchwylio gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan, gan annog cynhwysiant
• Sicrhau eu bod yn dychwelyd yn drefnus i'r ystafell ddosbarth
• Rhoi sylw i fân ddamweiniau neu ddisgyblion a ddaw'n sâ Rhoi gwybod i'r Uwch Oruchwyliwr Canol Dydd neu rywun dynodedig arall sy'n gyfrifol os bydd damwain yn digwydd neu os daw disgybl yn sâl a chofnodi damweiniau yn y llyfr damweiniau mewn ymgynghoriad â'n gyfrifol
• Monitro ymddygiad disgyblion, gan ymyrryd yn ôl yr angen yn unol âr polisi ymddygiad
•n gyfrifol am unrhyw achosion o dorri rheolau'r
ysgol/digwyddiadau gyda'r plant (gan lenwi ffurflen ddigwyddiad yn ôl yr angen ac mewn ymgynghoriad ân gyfrifol)
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS