MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 22 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Pontnewydd

Torfaen Local Authority

Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4

Mae gennym swydd wag gyffrous ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu, i ymuno â'n tîm prysur ac ymroddgar o staff cymorth yn Ysgol Gynradd Pontnewydd. Mae'r swydd hon yn ein Canolfan Adnoddau Dysgu.

Mae ein tîm o Gynorthwywyr Addysgu yn gweithio gydag amrywiaeth o ddisgyblion mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae rhai yn gweithio fel cymorth un-i-un a rhai'n gweithio mewn dosbarth yn rhoi cymorth i nifer o ddysgwyr y mae gan rai ohonynt anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi disgyblion, yn cydnabod eu hanghenion unigol ac yn ymateb iddynt. Gellid gofyn iddynt weithio gyda phlentyn yn unigol neu mewn grŵp ar raglen waith wedi'i chynllunio a'i chyfarwyddo gan athro dosbarth. Bydd gofyn iddynt ddod i gyswllt â rhieni / gofalwyr lle bo hynny'n briodol, gan eu diweddaru am ymddygiad eu plentyn a meithrin cydberthnasau cadarnhaol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu helpu gyda gofal a chymorth disgyblion, eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwaith yn yr ystafell ddosbarth a'u helpu i gadw ar dasg.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn lleoliad ymddygiad arbenigol, ac sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth am egwyddorion datblygiad plant a rhwystrau rhag dysgu.

Os ydych chi'n frwdfrydig ac yn weithgar, os ydych chi'n angerddol ynghylch gweithio gyda phobl ifanc ac mae gennych y profiad a'r sgiliau sydd eu hangen arnom, yna edrychwn ymlaen at gael cais gennych.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'swyddhon wedi'iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd fydd cynnwys gwiriad Manwl gyda'Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg ddymunol rôl hon ond nid ydynt hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad gwarantu bydd ag anableddau eu gwahodd gyfweliad, yr amod gofynion l. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych niwroamrywiol, neu'defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch ârheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi drefnu ydym gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn gyflwyno'ch cais, sefyll neu ddod gyfweliad.