MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £18,454 - £19,048
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 - Ysgol Morgan Llwyd

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £18,454 - £19,048

Ynglŷn â'r Rôl
Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 - Cymorth a Darpariaeth

30 awr yr wythnos

G05 - £18,454 - £19,048 y flwyddyn

Yn ystod y tymor yn unig

Gweithio yn ôl cyfarwyddiadau: darparu cefnogaeth wrth ymdrin ag anghenion disgyblion sydd angen cymorth arbennig i oresgyn rhwystrau i ddysgu.

Cefnogaeth i'r Disgyblion;
Darparu cefnogaeth fugeiliol i ddisgyblion
Derbyn a goruchwylio disgyblion a eithriwyd o amserlen arferol, neu nad ydynt fel rheol yn gweithio amserlen arferol
Ymdrin ag anghenion personol disgyblion a darparu cyngor i gynorthwyo eu datblygiad cymdeithasol, iechyd a glanweithdra
Cymryd rhan mewn asesiad cynhwysfawr o'r disgyblion i ddod i benderfyniad am y rheini sydd angen help arbennig
Cynorthwyo'r athro wrth ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad/Cefnogi /Mentora unigol
Cefnogi darpariaeth i'r disgyblion sydd ag anghenion arbennig
Sefydlu perthnasau ymarferol cynhyrchiol gyda'r disgyblion gan weithredu fel model rôl
Datblygu trefniadau mentora 1:1 gyda disgyblion a darparu cefnogaeth i ddisgyblion sydd mewn trallod
Hyrwyddo trosglwyddiad buan/effeithiol y disgyblion ar draws cyfnodau ac integreiddiad y rheini sydd wedi bod yn absennol
Darparu gwybodaeth a chyngor i alluogi disgyblion i wneud penderfyniadau am eu dysgu / ymddygiad /presenoldeb eu hunain
Herio ac annog disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthu hunan-barch
Darparu adborth i ddisgyblion o ran cynnydd, llwyddiant, ymddygiad, presenoldeb ayb.

Rhagor o wybodaeth yn yr disgrifiad swydd.

I drafod y swydd, cysylltwch a Mrs Mari Hughes, 01978 315050.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Amdanom Ni
Gwybodaeth am yr Ysgol

Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae tua 950 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 75 yn y chweched dosbarth.

Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.