MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Saesneg a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Darlithydd Saesneg a delir fesul awr

Noder, contract a delir fesul awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Saesneg a delir fesul awr sy'n fedrus ac yn llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont

Yn y rôl hyblyg hon, bydd angen profiad o ddysgu Saesneg TGAU a/neu Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau ieithyddol a chyfathrebu sydd eu hangen i lwyddo yn y dyfodol. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, gwerthuso ac asesu, gan sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu potensial ac yn bodloni gofynion y cwricwlwm. Byddwch yn darparu gwersi ysgogol a chynhwysol wedi'u teilwra i anghenion dysgwyr amrywiol, gan addasu eich strategaethau addysgu i sicrhau bod pob myfyriwr yn gwneud cynnydd. Bydd eich rôl yn ganolog i gefnogi dysgwyr i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt.

Dylech feddu ar radd (neu gyfwerth) mewn Saesneg, ynghyd â thystysgrif TAR (neu'n barod i ennill hon). Mae sgiliau cyfathrebu, trefnu a rhyngbersonol cryf yn hanfodol, yn ogystal ag angerdd dros ysgogi pob dysgwr, gan eu cefnogi i lwyddo. Os ydych yn llawn cyffro am gyfrannu a siapio dyfodol dysgwyr mewn amgylchedd dysgu arloesol, rydym yn eich annog i wneud cais!

Os ydych yn teimlo y gallech gyfrannu at y dysgu ac addysgu yn y maes hwn, hoffem glywed gennych! I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar Becyn Gwybodaeth y Swydd .

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.