MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Lampeter,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 24,404 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Dyffryn Aeron x 3
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 24,404 *
Ynglŷn â'r rôlYn eisiau o Ionawr y 6ed 2025.
Mae Llywodraethwyr Corff Cysgodol Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi tri Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i'r athro arbenigol o fewn Calon Aeron (Canolfan Anghenion Dysgu Ychwanegol Ysgol Dyffryn Aeron).
Mae hwn yn g yfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf. Yn ogystal â Chalon Aeron, bydd yna ganolfan iaith (Canolfan y Felin), ac adnoddau chwaraeon gwych ar safle'r ysgol a'r cyfan mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n agos drwy arweiniad yr athro arbenigol i gefnogi, cynorthwyo a chynnal disgyblion Calon Aeron.
Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus i gefnogi ein egwyddorion craidd a gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant Ysgol Dyffryn Aeron.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Hysbyseb am dair swyddi Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 i Ysgol Dyffryn Aeron, ac mae'n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ar gyfer y swydd.
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda'r Pennaeth Nia Lloyd Thomas i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol: 01570 470650.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant