MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Plascrug Primary School, Aberystwyth,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 23,656 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Gynradd Plascrug x 2
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 23,656 *
Ynglŷn â'r rôlRydym am benodi Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 1 mor fuan a phosib i'n cynorthwyo ni i gefnogi a chyflwyno dysgu ar gytundeb llawn amser am flwyddyn yn Ysgol Gymunedol Plascrug. Mi fyddwch yn gweithio fel rhan o dim staffio craidd yr ysgol.
Dyma nod yr ysgol:
'Yma ym Mhlascrug mi fyddwn yn sicrhau y bydd pob plentyn yn ffynnu yn ein hysgol, sydd yn rhoi plant yn ganolog i'n cymuned. Credwn fod gan bob plentyn y gallu i wneud cynnydd rhagorol wrth ddatblygu sgiliau gydol oes mewn amgylchedd dwy ieithog sy'n ddiogel, ofalgar ac ysbrydoledig. Mi fyddwn yn rhoi y siawns gorau i lwyddo i bob plentyn gan ddathlu pob llwyddiant gyda'n gilydd.'
O hoffech fod yn ran o dim ymroddgar i'n helpu i wireddi'r nod yma ac yn meddu a'r sgiliau isod fydd yn eich galluogi i ymgymryd a'r swydd yn llwyddiannus yna fe hoffem i chi wneud cais am y swydd.
Fe fydd gofyn i chi:
- oruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu
- sefydlu perthynas adeiladol gyda'r disgyblion, gan ryngweithio yn unol a'u hanghenion unigol
- herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthu hunan-werth
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu'r athrawes
- cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol
- sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a'r Saesneg
- sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
- dealltwriaeth gyffredinol o'r cwricwlwm cenedlaethol/ cyfnod Sylfaen a rhaglenni/strategaethau dysgu sylfaenol eraill
- gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dim, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny
- CGC1 i Gynorthwyyr Dosbarth, cymwysterau neu phrofiad gyffelyb
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi i'r swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Carol Macy ar MacyC@plascrug.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy