MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Arlwyo

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cymhorthydd Arlwyo Parhaol,

G02 £11.59 yr awr

15 awr yr wythnos, tymor ysgol yn unig

Rydym yn chwilio am gymhorthydd arlwyo parhaol i gynorthwyo gyda dyletswyddau cegin ac ystafell fwyta yn yr ysgol.

Prif Ddyletswyddau:-

1 - Paratoi bwyd a diodydd sylfaenol, e.e. paratoi llysiau, ffrwythau a salad.

2 - Dyletswyddau coginio syml, megis paratoi byrbrydau.

3 - Dyletswyddau cegin ac ystafell fwyta cyffredinol, e.e. golchi llestri, symud byrddau bwyta a chadeiriau, clirio'r ystafell fwyta.

4 - Glanhau'r gegin, yr offer a'r cyffiniau.

5 - Unrhyw ddyletswyddau sy'n gymesur â natur a graddfa'r swydd, yn ôl cyfarwyddyd y Prif Gogydd.
Mae ffurflenni cais ar gael gan Susan Thomas, Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion, Adran Tai a'r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU. Rhif ffôn: 01978 315647

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.