MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £17,310 - £17,584
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £17,310 - £17,584
Ynglŷn â'r RôlMae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 2 i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.
Mae'r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant. Rydym yn chwilio am berson gweithredol a brwdfrydig sy'n rhannu'r weledigaeth:
Ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.
Bydd y rôl o fewn prif ffrwd yr ysgol ond bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Adnodd Dysgu (Camau). Fe fydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol trwy ddulliau dysgu cyfunol. Bydd disgwyl i chi ddarparu adborth manwl a rheolaidd ar gyflawniad, cynnydd ac ymddygiad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
Amdanom Ni
Gwybodaeth am yr Ysgol
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn bron i 1,000 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 81 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.
About Us - Wrexham County Borough Council
Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.