MANYLION
  • Lleoliad: Llandysul,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 23,656 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Bro Teifi

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 23,656 *

Ynglŷn â'r rôl
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi dau Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio i cefnogi disgyblion er mwyn eu cefnogi i wneud cynnydd. Mae Ysgol Bro Teifi yn ymfalchïo yn ei hethos gynhwysol a bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus i gefnogi ein egwyddorion craidd a gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol.

Manylion y swydd:
  • Goruchwylio a chefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu
  • Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel patrwm ymddwyn, a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt
  • Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu'r athrawes
  • Annog disgyblion i weithredu'n annibynnol, fel y bo'n briodol
  • Cefnogi'r athro neu'r athrawes gyda'r gwaith o reoli ymddygiad disgyblion, gan gyflwyno adroddiad ar anawsterau, fel y bo'n briodol
  • Cefnogi disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm
Gwybodaeth am Ysgol Bro Teifi

Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy'r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o'r lleiaf i'r hynaf. Mewn arolwg Estyn (Chwefror 2019) nodwyd fod 'Ysgol Bro Teifi yn gymuned gynhwysol iawn, hynod ofalgar a Chymreig. Yn greiddiol i'w gwaith mae ei darpariaeth arbennig ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad sy'n cydweddu ag arwyddair yr ysgol, oni heuir ni fedir.'

Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae 847 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Llandysul Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Darllen mwy