MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria
Stryt Poyser
Wrecsam
LL13 7RR
Rhif Ffôn: 01978 360060
Pennaeth: Debbie Eccles
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Blwyddyn 3 a Dosbarth Derbyn
G04: £8,745 - £8,891 y flwyddyn
16.5 awr yr wythnos
38 wythnos y flwyddyn
Dros dro tan 31ain Mawrth 2025
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
I gychwyn ddydd Llun 4 Tachwedd 2024 (I'w gadarnhau yn y cyfweliad)
Rydym yn chwilio am gymhorthydd addysgu lefel 2 â phrofiad a chymwysterau addas sy'n gallu dangos:
• dealltwriaeth gynhwysfawr o'r Cwricwlwm i Gymru ac addysgeg
•gallu i gefnogi dysgwyr i wella a datblygu eu sgiliau sylfaenol
•gallu i siarad Cymraeg yn achlysurol a hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth
•gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm gallu ac amynedd i gefnogi ein dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
Mailbox@victoria-pri.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 18 Hydref 2024
CYFWELIADAU: Dydd Mawrth 22 Hydref 2024, 3.45pm ymlaen