MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £33,483 - £49,084
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,483 - £49,084
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .I Ddechrau Ionawr 1af 2025
Mae Ysgol Bryn Onnen yn ysgol Gymraeg yn Nhorfaen, 3 milltir i'r gogledd o dref Pontypwl.
Mae cysylltiadau trafnidiaeth da o'r M4 a'r A470 ac mae'r ysgol ar gyrion ardal Bannau Brycheiniog a Chanolfan Treftadaeth Byd Blaenafon.
Rydym yn ysgol groesawgar ac uchelgeisiol ac ar fin elwa o ariannu sylweddol trwy Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain er mwyn datblygu y safle ymhellach.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon newydd gymhwyso neu brofiadol ar gyfer swydd ddysgu blwyddyn am gyfnod mamolaeth. Bydd yr ymgeisydd llwydianus yn dysgu dosbarth cymysg Dosbarth Derbyn/Blwyddyn 1.
- Tystiolaeth o brofiad perthnasol llwyddiannus o addysgu, yn cynnwys ymarfer addysgu.
- Dealltwriaeth dda o ddulliau effeithiol o gynllunio'r cwricwlwm, asesu a gosod targedau.
- Gwybodaeth am 'Gwricwlwm Cymru' a'i oblygiadau o ran addysgu a dysgu.
- Gwybodaeth am dechnolegau newydd i gefnogi addysgu a dysgu a phrofiad o'u defnyddio.
- Gwybodaeth am strategaethau effeithiol i reoli ymddygiad a phrofiad o ddefnyddio'r strategaethau hynny.
- Dealltwriaeth drylwyr ynghylch prosesau a gweithdrefnau diogelu ac amddiffyn plantYn angerddol am addysg cyfrwng Cymraeg a'r cyfleon y mae hynny yn rhoi i ein disgyblion.
Cysylltwch a'r ysgol os hoffech drefnu ymweliad neu sgwrs anffurfiol yng nghylch y swydd.
Ffon; 01495 772284
e-bost; head.ysgolbrynonnen@torfaen.gov.uk
This is an advert for a post at a Welsh Medium school where the ability to use the Welsh language fluently is essential.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
You are welcome to submit your application in English or in Welsh. Each application will be treated equally.