MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £18,068 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 2 - Ysgol Tryfan

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £18,068 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau: I gychwyn Ionawr 6, 2025
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 (Swydd dros gyfnod mamolaeth)

Swydd dros dro yw hon yn ystod cyfnod mamolaeth un o gymorthyddion yr ysgol. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deilydd y swydd i'w gwaith.

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos

(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Prif gyfrifoldeb y swydd fydd rhoi cefnogaeth i unigolion/grŵp o ddisgyblion mewn gwersi.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 Lefel 2 (sef £17,771 - £18,068 y flwyddyn),yn ôl profiad a chymhwyster.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Cydlynydd ADY, Mrs Ceri Grisdale Jones (Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: Ceri.Jones@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU (Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD IAU, HYDREF 24AIN, 2024

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 04/11/24

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS SWYDD

• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.

• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.

• Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cefnogaeth i Ddisgyblion

• Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.

• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.

• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisiau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.

• Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.

• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth

• Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.

• Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.

• Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.

Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes

• Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.

• Cysylltu âr athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.

•r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.

• Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.

• Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.

• Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.

• Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.

• Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.


• Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.

• rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.

• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.

• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd âr cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.

• strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.

•r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.

• Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytø Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.

• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.


• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.

• Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.

• Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.

• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.

• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi