MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 4DF
- Testun: Gwaith Ieuenctid
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: 01 January, 2025
- Dyddiad Gorffen: 31 December, 2025
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2024 11:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rheolwr Partneriaethau Cyflogwyr a Datblygu Busnes Prentisiaethau (Cyfnod Mamolaeth)
Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Rheolwr Partneriaethau Cyflogwyr a Datblygu Busnes Prentisiaethau
Math o gontract: Cyfnod Mamolaeth - Cytundeb blwyddyn (Ionawr - Rhagfyr 2025)
Ystyriwn geisiadau secondiad o sefydliadau eraill neu o fewn yr Urdd.
Graddfa: Gweithredol 6: £34,866 - £40,685
Lleoliad: Un o swyddfeydd yr Urdd, ac yn gweithio ar draws Gymru
Dyddiad Cau: 04/11/24
Dyddiad Cyfweld: w/c 11/11/24
Y Swydd
Mae’r rôl hon yn allweddol i waith Adran Brentisiaethau’r Urdd ac yn gyfle i unigolyn gwneud ei farc dros gyfnod o flwyddyn. Byddech yn gyfrifol am reoli ein partneriaethau gyda chyflogwyr amrywiol ar draws Cymru ac yn gweithio tuag at greu perthnasau newydd. Mae’r gallu i siarad gyda phartneriaid o wahanol sectorau a rhannau o Gymru, mewn modd proffesiynol yn hanfodol.
Ystyriwn geisiadau arferol a secondiadau gan gwmnïau eraill neu o fewn yr Urdd. Byddem hefyd yn hapus i drafod patrymau gweithio hyblyg ar gyfer y swydd hon.
Rydym yn croesawu ceisiadau o unrhyw ran o Gymru.
Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Pennaeth Prentisiaethau Catrin Davis ar catrindavis@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.