MANYLION
  • Lleoliad: Cross College,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,588 - £33,405 (CALI)
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Engagement Coach

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £27,588 - £33,405 (CALI)

Engagement Coach
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

 

Hyfforddwr DDP. byddwch yn hwyluso cyflwyno dysgu/asesu ar-lein a gweithgareddau cymorth i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol dysgwyr ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn nodi, asesu a chefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg a dod yn NEET ac yn helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn trwy weithredu rhaglenni cymorth unigol a all gynnwys: cymorth academaidd, strategaethau astudio, cymorth presenoldeb, mentora a datblygu sgiliau cymdeithasol a chyflogaeth. Byddwch hefyd yn cynorthwyo dysgwyr gyda'r pontio i mewn, trwy ac allan o'r coleg.

 

Gwybodaeth   Bellach:

 

Mae   angen   i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

 

Ymgymryd   ag   unrhyw ddyletswyddau   rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

 

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

 

Canllawiau Cais:

 

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

 

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

 

Cyswllt:

 

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â   [email protected] .uk