MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwy-ydd Addysgu - Swydd Ran-amser - 15 awr.
Gofynnol o 4 Tachwedd 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair am geisio penodi ymarferydd profiadol, angerddol ac ymroddedig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi disgyblion, ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae gwybodaeth a phrofiad o Niwroamrywiaeth yn hanfodol.
Bydd y swydd yn darparu cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygiad proffesiynol. Bydd y swydd hon am gyfnod penodol tan 31 Awst 2025 gyda'r tebygolrwydd o adnewyddu ar ôl y cyfnod hwn.
Mae ffurflenni cais a manylion swydd ar gael oddi wrth [email protected]
Dyddiad cau: Dydd Iau, 17 Hydref 2024
Rhestr Fer: Dydd Gwener 18 Hydref 2024
Cyfweliadau: Dydd Llun, 21 Hydref 2024
Anogir ymgeiswyr i gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS