MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,478 - £31,508
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Tiwtor Sgiliau Hanfodol/SSIE

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £27,478 - £31,508

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 778

Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin

Adran: Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Sgiliau Sylfaenol

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Gradd: Gradd F +4%

Cyflog: £27,478 - £31,508

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr: £14.24 - £16.33

Oriau Contract:

Dewch i ymuno â'n tîm
Rydym yn dymuno penodi tiwtoriaid sesiynol profiadol â chymwysterau da i weithio ym maes Dysgu Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn dymuno penodi tiwtoriaid i addysgu ystod o bynciau Sgiliau Hanfodol: Sgiliau Cyfathrebu, Iaith Arwyddion Prydain, Defnyddio Rhifau, Llythrennedd Digidol neu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu cynnig un neu ragor o'r pynciau hyn ac mae'n rhaid iddynt feddu ar gymwysterau sydd o leiaf ar Lefel 3 yn eu harbenigedd pwnc yn ogystal â chymhwyster addysgu, neu barodrwydd i ennill cymhwyster o'r fath cyn pen 3 blynedd. Bydd tiwtoriaid yn cynorthwyo dysgwyr ôl-16 oed i ennill cymwysterau ar bob lefel o lefel cyn-mynediad hyd Lefel 2/TGAU.
Mae angen gallu sylfaenol yn y Gymraeg i gyflawni'r swydd hon. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â

Tracey Warr

twarr@sirar.gov.uk

Disgrifiad Swydd: 000016.pdf - 208KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 15 Hydref 2024

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 27/10/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.