MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £47,340 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro / Athrawes Cyfnod Allweddol 1- Blwyddyn 3, Ysgol Godre'r Berwyn, Bala
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £47,340 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Yn eisiau: ar gyfer: 1af o Ionawr 2025
ATHRO/ATHRAWES CYFNOD ALLWEDDOL 1 - BLWYDDYN 3
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i addysgu yn yr Ysgol.
Byddai profiad mynegiannol yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259) e-bost: iwan.jones @godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru .Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 21AIN O HYDREF 2024.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Dyletswyddau
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae'n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau'r ysgol:
Cyfrifoldebau Penodol Athro/awes
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd
•Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth'. Dylid hybu nodweddion,gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
•Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw Pennaeth Ffês, Tiwtor Dosbarth neu'r Pennaeth at unrhyw broblem.
•Cynnig addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.
- Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
- yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith yn ofalus a thrylwyr. Hefyd,cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
- Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
- Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
- Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i'r dosbarth a'u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
- Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w ofal hyd eithaf ei allu.
- Gosod a marcio gwaith y disgyblion.
•Cynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol;
•Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol;Cyfrannu at drefniadau'r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion;Cymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad;Cyfranogi i drefniadau hyfforddi a datblygiad proffesiynol sy'n berthnasol i'w swydd a chyfrifoldebau;Cynghori, arwain a chydweithio âr pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.;Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy'n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
•Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
•Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r
amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
•Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau Llun yn unol â threfniadau'r ysgol.
•Mynychu Nosweithiau Rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
•Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol.
•Cyfrannu i'w ddatblygiad personol a phroffesiynol ei hun gan fynychu HMS yn ôl y galw.
•Hybu blaenoriaethau CDY presennol yr ysgol
•Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu Ysgol Godre'r Berwyn i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
•Cydweithio`n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
•Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
Cysylltiadau:
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:-
-rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
-gyfrifol am oruchwylio gwaith cynorthwy-ydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
Yn ychwanegol gofynnir i chwi ymgymryd â'r dyletswyddau canlynol:
• 1. Ymgymryd a'ch dyletswyddau fel athro / athrawes sy'n gyfrifol am y maes / meysydd isod yn yr ysgol yn unol a Chynllun Datblygu'r Ysgol... 2.Cydweithio gydag athrawon eraill i ddatblygu polisi a chynllun gwaith yn y maes / meysydd isod yn unol a Chynllun Gwella'r Ysgol:
Mae'r uchod yn disgrifio`r ffordd y disgwylir i`r deilydd weithredu a chwblhau y dyletswyddau a nodir.
Gellir newid y swydd ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi