MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Cynorthwy-ydd Addysgu
Generig Lefel 2 (27 awr)
Angen ar gyfer Tachwedd, 2024
(Neu cyn gynted a phosib)
Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Trallwng yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgeg ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer yr ysgol flaengar a chynhwysol hon.
Swydd cynorthwy-ydd addysgu - cyfnod penodol tan Awst, 2025 (27 awr yr wythnos)
Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ysgol gynradd sy'n ysgogi a chefnogi pawb sy'n ynghlwm â'r ysgol mewn modd creadigol, torfol a byrlymus. Mae'r ysgol yn cynnig profiadau newydd, gwerthfawr ac unigryw sy'n sicrhau profiadau dysgu arloesol a difyr. Mae'r staff yn gofalu'n gydwybodol a theyrngar am eu disgyblion ac mae'r disgyblion yn teimlo'n ddiogel ym mhob achos. Mae'r ysgol yn canolbwyntio ar ysgogi pob disgybl i fod yn fedrus a deallus, yn ogystal â datblygu'r staff yn broffesiynol. Mae ffocws angerddol ar yr iaith a'r ymdeimlad o berthyn wrth hybu a ffynnu'r Iaith Gymraeg yn y Trallwng. Yn dilyn adroddiad Estyn llwyddiannus ac adeilad newydd anghredadwy, mae dyfodol disglair iawn o'n blaenau. Bydd ein cynorthwy-ydd newydd yn uchelgeisiol ac yn meddu ar ddisgwyliadau uchel, yn ffynnu ar her, yn gweithio'n galed, yn arddangos sgiliau pobl rhagorol a bydd ef/hi yn
benderfynol o ddarparu'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn.
Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Dylid cyflwyno cais erbyn 14eg o Hydref, 2024
Dyddiad Cau: 14eg o Hydref, 2024
Rhestr Fer: 15fed o Hydref, 2024
Cyfweliadau: 21ain o Hydref, 2024
'Does neb yn berffaith, mae pawb yn wahanol. Mae'r ffordd yn un droellog i bawb'