MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £23,150 yn Cynnwys Atodiad Cyflog Byw Go Iawn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Arholiadau - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £23,150 yn Cynnwys Atodiad Cyflog Byw Go Iawn
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 918
Sefydliad: Ysgolion
Adran: Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Nifer y swyddi gwag: 4
Math o gontract: Achlysurol
Lleoliad: Caerfyrddin
Gradd: Gradd A
Cyflog: £23,150 yn Cynnwys Atodiad Cyflog Byw Go Iawn
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £12.00 yn Cynnwys Atodiad Cyflog Byw Go Iawn
Oriau Contract:
Dewch i ymuno â'n tîm
Rydym yn edrych am Oruchwylwyr Arholiadau newydd, i ymuno â'r tîm goruchwylio presennol, ac i weithio dan gyfarwyddyd y Swyddog Arholiadau.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus weinyddu, goruchwylio ac arolygu myfyrwyr Blynyddoedd 10 - 13 sydd yn sefyll arholiadau allanol, gan ddilyn gofynion a rheolau JCQ.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gwaith ar sail ad-hoc, yn bennaf yn ystod misoedd Mai a Mehefin gydag ambell ddiwrnod ychwanegol yn bosibl yn ystod y flwyddyn.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn hyblyg i weithio yn y bore a/neu yn y prynhawn.
Am fanylion pellach ynghylch y swydd, cysylltwch â Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol ( sian.thomas@bromyrddin.org )
Disgrifiad Swydd: 011029 - Goruchwylydd Arholiadau - Exam Invigilator.pdf - 200KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 7 Tachwedd 2024
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 04/11/2024, 12:00
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.