MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Llawn Amser - Parhaol

L27 i L33 (£90,980 i £105,390)

Ar gyfer diwedd mis Ebrill 2025 neu cyn gynted a phosibl

Ysgol Morgan Llwyd

'Ym mhob llafur y mae elw'

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd y Pennaeth.

Fel ysgol sy'n tyfu mewn niferoedd, mae'r ysgol hon ar y trywydd iawn i fod yn ysgol ragorol sy'n darparu addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl. Rydym yn chwilio am arweinydd i gydweithio'n effeithiol gyda phob rhanddeiliad i adeiladu ar gryfderau'r ysgol a symud ymlaen at ddyfodol llewyrchus a llwyddiannus.

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch a chroesawgar sy'n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a'i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o'i gymdeithas.

Rydym yn chwilio am arweinydd deinamig sydd â gwir awydd i wneud gwahaniaeth i addysg myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Wrecsam ac i weithio'n agored, yn gynhwysol ac yn gydweithredol gyda'r Awdurdod Lleol ac a'r Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE).

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd yn:

§
Uchelgeisiol a gyda hanes o ddefnyddio arloesedd i ddatblygu gwelliant

Arddangos sgiliau arwain cryf

Arddangos arloesedd a chreadigrwydd wrth gyflwyno safonau academaidd rhagorol

Ymrwymiad i holl fywyd yr ysgol a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, a chreu amgylchedd addysgol sy'n ysgogi, cefnogi a meithrin myfyrwyr

Meddu ar ddealltwriaeth ddofn o'n gweledigaeth a'n gwerthoedd a dangos ymrwymiad iddynt

Ysbrydoledig gyda Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) a'r gallu i ddangos blaengaredd, brwdfrydedd a sgiliau arwain profedig.

Os ydych yn arweinydd ysbrydoledig a chryf, a bod gennych weledigaeth rymus ar sut i barhau i godi safonau hyd yn oed ymhellach, croesawn eich cais ar gyfer y swydd.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Gofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg a'r CPCP.

I drefnu ymweliad, neu am ragor o wybodaeth cyn cyflwyno'ch cais, cysylltwch â'r ysgol os gwelwch yn dda.

I wneud cais: cwblhewch y ffurflen gais ar-lein sydd i'w chael ar dudalen swyddi gwag Awdurdod Lleol Wrecsam (Swyddi Gwag) erbyn 12yp ddydd Llun yr 18fed o Dachwedd.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Bydd angen cynnal gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ar gyfer y swydd hon.

(Hysbyseb swydd ar gyfer Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam yw hon lle mae'r Saesneg yn hanfodol.)

Dyddiadau Allweddol

Os ydych yn dymuno ymweld âr Ysgol cysylltwch yn uniongyrchol

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, Dydd Llun 18fed Tachwedd, 2024

RHESTR FER: Dydd Llun 25ain Tachwedd, 2024
CYFWELIADAU: Dydd Mawrth 3ydd Rhagfyr, 2024