MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthen, SA32 8NJ
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,465 - £32,538 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swydd Technegol Clafr Defaid

Coleg Sir Gar

Cyflog: £30,465 - £32,538 / blwyddyn

Swydd Technegol Clafr Defaid
Application Deadline: 9 October 2024

Department: Amaethyddiaeth

Employment Type: Contract Cyfnod Penodol

Location: Campws Y Gelli Aur

Reporting To: Rheolwr Rhaglen - Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

Compensation: £30,465 - £32,538 / blwyddyn

DescriptionMae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i berson rhagweithiol a dyfeisgar. Mae'r coleg am gyflogi 3 Swyddog Technegol ar gyfer Rhaglen Dileu Clafr Defaid yng Nghymru - Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Nod cyffredinol y prosiect yw cyflwyno rhaglen dileu clafr defaid yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda ffermwyr defaid a chysylltu â'u milfeddygon i wneud diagnosis o bresenoldeb clafr actif. Gweithio gyda grwpiau o ffermwyr mewn mannau problemus i gytuno ar yr amser mwyaf addas i roi triniaeth gan ddefnyddio contractwyr symudol trochi defaid. Caiff y costau o drochi ffermydd heintiedig eu talu'n llawn gan y rhaglen. Monitro lefelau cyfranogiad ffermwyr gyda'r rhaglen ac ateb cwestiynau ac ymholiadau gan ffermwyr ynghylch y rhaglen yn gyffredinol neu eu canlyniadau penodol.

Bydd teithio'n cynnwys ymweld â ffermydd defaid sydd wedi'u cofrestru ar y rhaglen a hefyd i hwb y rhaglen yn y Gelli Aur.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Fod y pwynt cyswllt i ffermwyr yn eich ardal gael trafod gyda ac adrodd wrth am haint clafr defaid;
  • Gweithio gyda milfeddygon i wneud diagnosis o bresenoldeb clafr actif;
  • Cysylltu â ffermwyr a chontractwyr symudol trochi defaid a threfnu ymweliadau trochi i drin yr holl ddefaid ar ffermydd heintiedig;
  • Sicrhau bod cofnodion gweithgarwch ac adroddiadau'n cael eu cadw i safonau archwilio Llywodraeth Cymru;
  • Bod yn bresennol mewn sioeau a gwerthiannau defaid lleol.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Profiad eang o ffermio defaid ar y tir uchel ac ar y tir isel yng Nghymru
  • Profiad o weithio gyda ffermwyr a'r gallu i gyfathrebu a phan fo'n ofynnol cyd-drafod a dod o hyd i ddatrysiadau
  • Defnyddio taenlenni/cronfeydd data
  • Dealltwriaeth dda a phrofiad o Microsoft Office
  • Cymhwyster perthnasol, ar lefel 3 TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau dadansoddi da
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Gallu cynnal cyfrinachedd llym

Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2/3
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 1/2
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Mae Coleg Sir Gâr | Coleg Ceredigion yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar, pe baem yn derbyn nifer fawr o geisiadau digonol. O ganlyniad, rydym yn cynghori pob ymgeisydd i wneud cais cyn gynted â phosibl i osgoi unrhyw siom.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein