MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,590 Codiad cyflog i ddod - £28,477 Codiad cyflog i ddod
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Chwefror, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £24,590 Codiad cyflog i ddod - £28,477 Codiad cyflog i ddod
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr mewn Plymwaith
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn Amser, Parhaol
Cyflog: £25,943 - £30,044
Mae Coleg Cambrig yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr angerddol a medrus mewn Plymwaith i ymuno â'n tîm ar safle Glannau Dyfrdwy. Yn y swydd hon, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno cyfarwyddiadau ymarferol wedi'u hamserlennu ac arddangosiadau i grwpiau myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn plymwaith. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydlynwyr cwrs a darlithwyr i greu amserlen strwythuredig o weithgareddau a chefnogi myfyrwyr i gyflawni eu nodau dysgu. Bydd monitro cynnydd myfyrwyr, asesu eu cymhwysedd mewn tasgau ymarferol, a chadw cofnodion cywir yn gyfrifoldebau allweddol.
Fel rhan o'n hymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr, byddwch yn cynorthwyo gydag adolygiadau myfyrwyr, yn helpu i gynhyrchu canlyniadau cwrs, ac yn cyfrannu at greu amgylchedd dysgu gofalgar a chefnogol. Mae cynnal proffesiynoldeb, sicrhau disgyblaeth myfyrwyr, a hyrwyddo presenoldeb a phrydlondeb yn agweddau hanfodol ar y swydd. Yn ogystal, byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau datblygu staff ac yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal polisïau'r Coleg ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, ac Ansawdd, gan gefnogi cenhadaeth gyffredinol y Coleg. Byddwch yn aelod rhagweithiol o'r tîm, yn barod i ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol y mae eich Rheolwr Atebol yn gofyn i chi ei eu gwneud er mwyn helpu i'r adran weithredu'n llyfn.
Gofynion Hanfodol
• Cymhwyster Lefel 3 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc proffesiynol perthnasol
• Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
• Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig