MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Chwefror, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill CC/2698

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Lleoliad: Ial

Math o Gontract: Llawn amser: tymor sefydlog (Mehefin 2025)

Cyflog: £32,304 - £49,934 Mae pwyntiau bandiau cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i Raddfa Dâl Uwch

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer darlithydd ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill) ar ein Campws Ial.

Mae profiad o addysgu ESOL o fewn y DU yn hanfodol (gan gynnwys yn ddelfrydol amrywiaeth o wahanol lefelau i ddechreuwyr/E1 hyd at Lefel 2. Fel arfer mae dros 65% o'n dysgwyr yn ddysgwyr lefel mynediad/dechreuwyr. Mae rhesymau dysgwyr dros ymuno â dosbarthiadau ESOL yn amrywio o fod angen dysgu'r iaith er mwyn cael gafael ar wasanaethau cymorth, i integreiddio i gymunedau lleol, i allu cefnogi eu plant yn ogystal â symud ymlaen i gyrsiau AB/AU lefel uwch neu i gyflogaeth. Oherwydd natur dysgwyr ESOL a darpariaeth ESOL, mae gallu darparu sesiynau gwahaniaethol yn hynod ddymunol

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd allu sefydliadol blaenorol a fydd yn eich helpu i gydbwyso gofynion addysgu a gweinyddu'r swydd. Byddwch hefyd yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ac yn barod i weithio'n hyblyg, gan gynnwys gyda'r nosau yn ogystal â gweithio'n annibynnol i ysgrifennu cynlluniau dysgu a datblygu adnoddau i ennyn diddordeb a chymell eich dysgwyr. Fel unigolyn, byddwch wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed.

Mae gwybodaeth am neu ddealltwriaeth o agenda genedlaethol ESOL ac ymrwymiad i gyrraedd targedau yn unol â'r agenda honno yn bwysig i gyflawni'r ddarpariaeth.

Gydag ymwybyddiaeth o bwysigrwydd safonau ansawdd o fewn addysgu, bydd gennych wybodaeth am ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu a dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun. Dylech fod yn agored ac yn ymateb i anghenion pobl eraill a gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau sy'n newid a syniadau newydd.

Gofynion Hanfodol
  • Meddu ar neu fod yn barod i weithio tuag at CELTA gradd B neu uwch (Tystysgrif mewn Addysgu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) neu gymhwyster addysgu ESOL cydnabyddedig arall
  • Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5
  • Datblygu a defnyddio amrywiaeth o dechnegau dysgu ac addysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
  • Dangos dealltwriaeth o'r datblygiadau presennol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
  • Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu
  • Gallu dadansoddi a defnyddio gwybodaeth allweddol i lywio addysgu a dysgu
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, chwaraewr tîm cryf, arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu
  • Hyfedr mewn MS Office ac yn ddelfrydol mewn cymwysiadau Google a defnyddio'r rhyngrwyd a mewnrwyd

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai