MANYLION
  • Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 40,540 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 40,540 *

Ynglŷn â'r rôl
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, gyda'r bwriad arloesol o gefnogi ysgolion i gydweithio ar fodel hybrid o addysgu i ehangu'r ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion ôl-14. Tros y blynyddoedd diwethaf, mae'r prosiect cyffrous hwn wedi ehangu i bob ardal o Gymru ac yn cydweithio bellach gyda nifer o ysgolion ledled y wlad.

Bydd Is Arweinydd e-sgol De Cymru yn gyswllt angenrheidiol i ysgolion De Cymru ac yn cynnig hyfforddiant a chymorth i'r athrawon a'u dysgwyr. Byddent yn gweithio'n agos gydag Arweinydd De Cymru e-sgol i sicrhau seilwaith gadarn i'r prosiect. Hefyd, byddant yn cydweithio gydag Arweinwyr e-sgol i edrych am gyfleoedd newydd ac arloesol i ehangu darpariaeth e-sgol ymhellach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • angerddol dros addysgu digidol
  • meddu ar brofiad arwain yn y sector addysg
  • meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
  • meddu ar brofiad o ddarparu hyfforddiant i gynulleidfaoedd amrywiol
  • ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial
Bydd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.


    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Am wybodaeth bellach, cysyllter â Llifon Ellis (Pennaeth e-sgol)

    Llifon.Ellis@e-sgol.cymru

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
    Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
    • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
    • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
    • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
    • Derbyniadau Ysgol
    • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
    • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
    • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
    • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
    Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
    Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
    Darllen mwy