MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,619.64 - £47,330.98 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Hydref, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol hyd at 31/08/2026

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £30,619.64 - £47,330.98 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Datblygiad ac Addysg Plant a fydd yn addysgu ar draws lefel Mynediad 3 (Cyflwyniad i Iechyd a Gofal), hyd at Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch/cwrs Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Plentyn).

Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol neu unrhyw ddisgyblaeth gyffelyb a fyddai'n gofyn am ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth a pholisïau yn y sector Gofal Iechyd. Croesewir hefyd geisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar yn y sector Plant - ee gweithio o fewn addysg gynradd, lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, neu brofiad perthnasol arall yn y diwydiant.

Bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu fel darlithydd o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen, y Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth yn yr adran. Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar / Gofal Cymdeithasol.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a phrofiad o weithio yn y sector Iechyd neu Ofal Cymdeithasol. Fodd bynnag, croesawn hefyd arbenigwyr o'r sector sy'n awyddus i fentro i'r maes addysgu. Byddem yn fodlon ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/034/24

Cyflog
£30,619.64 - £47,330.98 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
46 diwrnod y flwyddyn o wyliau.

Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.

Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
17 Hyd 2024
12:00 YH(Ganol dydd)