MANYLION
- Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 6LZ
- Testun: Athro
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2024 12:00 y.p
This job application date has now expired.
Athro /Athrawes Ddosbarth - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llandeilo Bertholau
Cyngor Sir Fynwy
Eisiau ymuno â thîm deinamig a brwdfrydig mewn ysgol sydd ar i fyny? Os felly, darllenwch ymlaen...... oherwydd o ganlyniad i ymddeoliad yn y tîm, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llandeilo Bertholau.
Pwrpas y Rôl hon:
Ymgymryd â dyletswyddau Athro/Athrawes yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a deddfwriaeth addysgol gyfredol arall.
Addysgeg
1. Sicrhau’r canlyniadau gorau i ddysgwyr yn gyson drwy fireinio a datblygu addysgu a dylanwadu ar ddysgwyr yn gynyddol.
2. Sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu sy’n hyrwyddo arferion ac ymddygiadau dysgu cadarnhaol sy’n bodloni’r diben ac sy’n galluogi dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain.
3. Defnyddio ystod o dechnegau asesu i fonitro a chofnodi cynnydd disgyblion a llywio’r cynllunio er mwyn bodloni anghenion canfyddedig dysgwyr.
4. Gwneud defnydd effeithiol o wahaniaethu i fodloni anghenion pob dysgwr.
5. Gwneud defnydd effeithiol o ddata i gynhyrchu adborth, cofnodion ac adroddiadau amserol a chywir i hwyluso dealltwriaeth ddyfnach o ddysgu a gwella’r profiad o ddysgu.
6. Cynnwys rhieni, gofalwyr, partneriaid eraill a rhandddeiliaid yn natblygiad dysgwyr o ran pedwar diben y cwricwlwm.
7. Ymgorffori, datblygu ac ehangu’r pedwar diben mewn cynllunio, paratoi ac addysgu i ysgogi profiad y dysgwr a chyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pob dysgwr.
8. Defnyddio addysgeg a disgyblaethau perthnasol o fewn ac ar draws cynnwys pynciol, meysydd dysgu a themâu trawsgwricwlaidd wrth gynllunio a chyflwyno.
9. Defnyddio ystod eang o ddulliau dysgu a phrofiadau dysgu cyfunol.
10. Ehangu profiad diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac economaidd-gymdeithasol dysgwyr drwy ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn ar gyfer dysgu.
11. Gweithio gyda dysgwyr i olrhain cynnydd mewn dysgu a nodi’r camau nesaf ar gyfer cynnydd.
12. Datblygu a defnyddio themâu trawsgwricwlaidd sy’n berthnasol i feysydd dysgu i adeiladu cysylltiadau a galluogi myfyrio effeithiol ar ddysgu.
13. Cyfathrebu a darparu lefelau priodol o her a disgwyliadau ar gyfer yr ystod o alluoedd a nodweddion myfyrwyr er mwyn ysgogi dysgwyr i gyflawni.
14. Ceisio, gwrando ar ac ystyried safbwyntiau dysgwyr er mwyn ennyn eu diddordeb a’u hannog fel cyfranogwyr gweithredol yn eu dysgu eu hunain.
15. Annog dysgwyr i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain a chymryd rhan weithredol wrth reoli eu hagenda ddysgu eu hunain.
16. Hyrwyddo a sicrhau hunan-gymhelliant a hunan-gyfeiriad mewn dysgwyr.
17. Rhoi amser i ddysgwyr fyfyrio a gwerthuso’u dysgu a’u hymddygiad eu hunain.
18. Hyrwyddo’r cysylltiadau rhwng profiadau a chanlyniadau dysgu o ansawdd uchel a gwell dysgu a lles.
19. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant ac Oedolion yn flaenoriaethau allweddol i’r Ysgol a’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sydd mewn perygl i fod mor ddiogel ag y gallant a chyflawni eu potensial. Chi sy’n gyfrifol am chwarae eich rhan yn lles, diogelwch ac amddiffyn [plant ac oedolion sy’n wynebu risg. Bydd gennych gyfrifoldeb i gymryd rhan mewn hyfforddiant i’r lefel briodol o ddiogelu a bydd gennych ddyletswydd i gyflawni eich cyfrifoldebau personol dros ddiogelu.
Cydweithio
20. Gweithio’n gynhyrchiol gyda’r holl bartneriaid mewn dysgu er mwyn ymestyn effeithiolrwydd proffesiynol.
21. Mynd ati’n rhagweithiol i geisio ymgysylltu a cheisio cyngor a chefnogaeth o ystod o ffynonellau ffurfiol ac anffurfiol a gweithredu hyn i wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr.
22. Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol ar y cyd ac yn arloesol i wella profiad dysgwyr.
23. Cefnogi datblygiad eraill drwy gyfrannu at fentrau ysgol gyfan, cymryd rhan mewn rhaglenni sy’n ymestyn arbenigedd a datblygu perthnasoedd o ansawdd uchel gyda chydweithwyr er mwyn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau dysgwyr.
Dysgu Proffesiynol
24. Cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu proffesiynol eich hun drwy geisio ymestyn gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yn barhaus a chroesawu her a chefnogaeth i ddatblygu addysgeg yn gynyddol.
25. Ymgymryd â darllen ehangach i wella dealltwriaeth o ddamcaniaethau ac ymchwil sy’n ymwneud ag asesu, addysgeg, datblygiad a dysgu plant a phobl ifanc sy’n berthnasol i gynllunio ac ymarfer o ddydd i ddydd.
26. Ymgysylltu â rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol.
27. Defnyddio Pasbort Dysgu Proffesiynol i gofnodi dysgu proffesiynol a myfyrio ar arfer a’i wella.
Arloesedd
28. Defnyddio agwedd arloesol at ddatblygu technegau a dulliau i wella addysgeg a chanlyniadau.
29. Cefnogi datblygiad eraill drwy fodelu technegau addysgu a defnyddio profiad i gynnig cyngor ac arbenigedd.
30. Defnyddio Barn broffesiynol a dadansoddiad beirniadol i ddatblygu technegau newydd a llywio arfer er mwyn symud y dysgu yn ei flaen.
31. Gwerthuso, dadansoddi a rhannu effaith newidiadau mewn ymarfer.
Arweinyddiaeth
32. Ymarfer arweinyddiaeth drwy bob agwedd o arfer broffesiynol i gefnogi ymdrechion eraill ar draws yr ysgol a thu hwnt i gyflawni uchelgeisiau addysgol Cymru.
33. Arddangos ymrwymiad personol a phroffesiynol i egwyddorion tegwch a gwneud ym mwyaf o botensial pob dysgwr.
34. Ymarfer cyfrifoldeb corfforaethol drwy sicrhau dealltwriaeth a chydymffurfiaeth â pholisïau, egwyddorion a gwerthoedd yr ysgol, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch a chydraddoldeb.
35. Arddangos ymrwymiad i arwain dysgu drwy ymgysylltu â phrofiadau cydweithredol yn yr ysgol a chyd-destunau eraill.
36. Cefnogi rolau arweinyddiaeth ffurfiol drwy geisio deall rôl, cyfrifoldebau a chyfraniad eraill ar draws yr ysgol tuag at ethos yr ysgol a chyflawni gweledigaeth yr ysgol.