MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gofalwr Glanhau / Gweithredwr Peiriant Pwll Hydrotherapi (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.46 i £14.16 yr awr

Gofalwr Glanhau / Gweithredwr Peiriant Pwll Hydrotherapi (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Gofalwr, Gweithredwr Offer Pwll Hydrotherapi
30 awr yr Wythnos / 52 wythnos y flwyddyn
Yn gweithio shifftiau bob yn ail: Shifft un: Dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am - 2.30pm
Shifft dau: Dydd Llun i ddydd Gwener 12.00pm - 6.30pm
Swydd barhaol
Mae gennym gyfle gwych i ddau unigolyn egnïol a brwdfrydig ymuno â'n tîm yn Ysgol Penmaes, i'n helpu i sicrhau bod ein hysgol yn darparu amgylchedd diogel, croesawgar a phwrpasol i blant, staff ac ymwelwyr. Rydym yn ceisio penodi Glanhawr/Gofalwr, Gweithredwr Offer Pwll Hydrotherapi.
Mae'r swydd yn 30 awr yr wythnos ac mae'r shifftiau am yn ail bob wythnos:
Shifft un: Dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am - 2.30pm
Shifft dau: Dydd Llun i ddydd Gwener 12.00pm - 6.30pm
Prif bwrpas y swydd yw:
● bod yn gyfrifol am agor / cau o ddydd i ddydd a diogelwch y sefydliad.
● bod yn ddaliwr allwedd ac ymateb i alwadau brys ac agor/cau i gontractwyr/gosodiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw.
● bod yn gyfrifol am ofynion sefydliadol y sefydliad o ddydd i ddydd a bod yn gyfrifol am lanhau ardal benodol yn ôl yr hyn sy'n ofynnol.
● bod yn gyfrifol am gynnal a chadw a gweithredu amrywiaeth o beiriannau a chyfarpar sy'n gysylltiedig â gweithredu'r pwll hydrotherapi yn Ysgol Penmaes (darperir hyfforddiant os oes angen). Gweler y swydd ddisgrifiad llawn.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm yr ysgol a rhaid iddynt fod yn fodlon ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant yr ystyrir ei fod yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r rôl hon.
Bydd angen i chi:
• bod yn unigolyn ymarferol sy'n gallu datblygu a gweithredu systemau/gweithdrefnau yn ogystal â chynnal rhai cyfredol
• bod yn gydymdeimladol â phryderon amgylcheddol ynghylch yr ysgol a'r tiroedd
• gallu paratoi a gweithredu asesiadau risg ac unrhyw argymhellion
• cyfrannu at brosiectau ac amserlenni cynnal a chadw
• bod yn ymarferol, gyda sgiliau DIY da.
Gallwn gynnig:
• cyfleoedd datblygiad proffesiynol
• ethos gofalgar, ymroddedig a chynhwysol
• tîm ymroddedig o staff cyfeillgar a chefnogol