MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: MPS \/ UPS + TLR 1 (£12,193), plus R+R of £10,000 over 3 years
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 22 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth Cyfadran Mathemateg - Ysgol Gorllewin Mynwy
Torfaen Local Authority
Cyflog: MPS \/ UPS + TLR 1 (£12,193), plus R+R of £10,000 over 3 years
Ar gyfer dechrau Medi 2026Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Pennaeth Mathemateg deinamig sy'n llawn ysbrydoliaeth i ymuno â'n tîm arweinwyr canol dylanwadol. Mae gan y Maes Dysgu a Phrofiad hwn hanes cadarn o ran canlyniadau disgyblion, ac mae'n cynnig cyfle i ddarpar-ymgeiswyr ddatblygu diwylliant o arloesi addysgol. Mae'r gyfadran yn cael adnoddau da ac mae ganddi staff profiadol iawn. Mae wedi ei lleoli mewn cyfres o ystafelloedd dosbarth a adnewyddwyd yn ddiweddar. Rydyn ni'n chwilio am athro rhagorol sydd ag ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o'r ansawdd uchaf ar gyfer y disgyblion yn eu gofal; a'r gallu i ysgogi pob disgybl i lwyddo mewn Mathemateg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arweinydd ysbrydoledig a all ennyn brwdfrydedd a chefnogi eu tîm trwy heriau'r dirwedd addysgol bresennol. Mae profiad o addysgu Mathemateg ar draws yr ystod oedran a gallu 11 i 16 oed yn hanfodol a byddai cyfraniad blaenorol at weithgarwch arweinyddiaeth ganol hefyd yn fanteisiol iawn.
Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol gyfun gymysg i ddisgyblion 11 i 16 oed ac mae'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a'r cyffiniau. Mae'r ysgol wedi ehangu'n gyflym iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 1200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan Ysgol Gorllewin Mynwy enw ardderchog yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Anogir pob darpar-ymgeisydd i weld ein gwefan... www.westmonmouthschool.org.uk
Dyddiad cau: Dydd Mercher 22ain Ebrill 2026, am 23:59
Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg . font-size:12pt"> Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn dod â nhw ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. font-size:12pt">Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydym wedi ein cofrestru fel Cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl a chynnig datblygiad gyrfa i bobl anabl. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled âu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad. font-size:12pt"> Pennaeth Cyfadran Mathemateg - Ysgol Gorllewin Mynwy Ymgeisiwch ar-lein