MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £23,261
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwylydd Amser Cinio - Ysgol Dyffryn Aman

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £23,261

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 871

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Ysgol Dyffryn Aman

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Lleoliad: Rhydaman

Gradd: Gradd A +4%

Cyflog: £23,261

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr: £12.05

Oriau Contract: 5

Dewch i ymuno â'n tîm
Mae angen Goruchwylydd Amser Cinio pwrpasol a chyfrifol ar ein hysgol i sicrhau bod trefn ddyddiol amser cinio yn mynd yn hwylus,

Ein horiau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig.

Gorchwilio disgyblion i sicrhau eu diogelwch o fewn adeilad yr ysgol ac ar dir yr ysgol.
  • Recordio unrhyw ddamwain, anaf neu ymddygiad anerbyniol i aelodau o staff ar ddyletswydd neu I aelod o'r Uwch Dim Arwain
  • Sicrhau bod unrhyw ddamwain, anaf neu ymddygiad anerbyniol yn cael ei adrodd i'r aelod o staff ar ddyletswydd neu aelod o'r Uwch Dim Arwain.
  • Sicrhau bod disgyblion yn dilyn rheolau ysgol a rheolau'r iard gan dynnu eu sylw at reolau'r ysgol o gwmpas yr adeilad.
  • Sicrhau nid oes unrhywun heb ganiatad i fod ar iard yr ysgol yn cael mynediad.
  • Yn ystod chwarae gwlyb, gorchwilio'r disgyblion yn ardaloedd addas

Cymorth I Ddigyblion
  • Sicrhau bod plant yn ymddwyn yn briodol wrth resi am ginio.
  • Ysgogi arfer dda wrth fwyta bwyd ac ymddwyn wrth y bwrdd yn gwrtais.
  • I gynorthwyo disgyblion lle'n briodol i dacluso llestri ac ati wrth glirio'u byrddau.
  • I sicrhau bod disgyblion yn cerdded yn dawel a gofalus wrth adael y neuadd.
  • I sicrhau bod disgyblion yn cael gofalaeth yn syth ar ol gadael y neuadd.
  • Gofalu am ddisgyblion sy'n sal gan gynnwys clirio i fyny.

• Unrhyw gyfrifoldeb rhesymol arall mae'r pennaeth neu aelod o'r Uwch Dim Arwain yn holi i chi wneud.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Mrs F Elias, Diprwy

Disgrifiad Swydd: Job Profile - Lunchtime Supervisor.pdf - 136KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 09/10/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.