MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Swydd:
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cogydd Cynorthwyol Ysgol Gynradd Caedraw
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyflog: Graddfa Swydd:
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFULCyfarwyddiaeth Pobl a Pherfformiad, Adran Ysgolion
Arlwyo Ysgolion
COGYDD CYNORTHWYOL
YSGOL GYNRADD CAEDRAW
20 awr yr wythnos (Yn ystod y tymor yn unig)
Graddfa 2 SCP 6 - £23,893 y flwyddyn pro rata
47.27% of £23,893 = £11,294 y flwyddyn
Dechrau Ar Unwaith
Bydd y cogydd yn gyfrifol am archebu, paratoi, coginio a gwasanaeth prydau bwyd gan gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac arfer da, yn ôl y safon a osodir yn y Contract Arlwyo. Hefyd, cyfrifoldeb dros y sefydliad, goruchwylio a hyfforddi staff arlwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i gwsmeriaid mewn amgylchedd gwaith diogel. Cydymffurfio â'r holl weithdrefnau gweinyddol ac ariannol a osodwyd allan ym manyleb y Contract.
Dyddiad cau: 11 Hydref 2024
Mae tystysgrif ddilys hylendid Lefel II yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â Fairyal Pabani ar 01685 725000.
Rhaid i bob gweithiwr newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o'r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda'r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau'r cwrs hwn ewch i: https://learnwelsh.cymru/work-welsh/work-welsh-courses/work-welsh-taster-courses/
Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 11 Hydref 2024 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na'r rheini a gyflwynir yn Saesneg.
Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.