MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £15,867 - £16,119
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £15,867 - £16,119

Ynglŷn â'r Rôl
27.5 awr yr wythnos.

Rydym eisiau penodi unigolyn llawn brwdfrydedd a chymhelliant i weithio fel Cynorthwywyr Addysgu yn ein hysgol. Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd uniongyrchol athrawon/staff uwch, yn yr ystafell ddosbarth gyda'r athro fel arfer, i gynorthwyo disgyblion wrth iddynt ddysgu, a rhoi cymorth cyffredinol i'r athro wrth reoli disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gweithredu strategaethau i gefnogi unigolion a rennir drwy Gynlluniau Datblygu Unigol/ Targedau Camau Bach/ Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol/ asiantaethau allanol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn ffordd amrywiol sy'n gysylltiedig naill ai ag adran neu â'r Adnodd Anghenion Ychwanegol.

Beth fydd e'n ei wneud?

Bydd eich prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'n cynnwys:

Cymorth i'r disgyblion

Diwallu anghenion personol ac addysgol disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf a lles
Goruchwylio a chynorthwyo disgyblion a sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael cyfle i ddysgu
Meithrin perthynas dda gyda disgyblion, gosod esiampl dda a bod yn ymwybodol o anghenion unigol, ac ymateb yn briodol iddynt
Hybu cynhwysiant a derbyn pob disgybl
Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad yr athro
Annog disgyblion i ymddwyn yn annibynnol fel sy'n briodol

Cymorth i'r athrawon

Paratoi'r ystafell ddosbarth yn ôl y cyfarwyddyd ar gyfer gwersi, tacluso popeth wedyn, a chynorthwyo â'r gwaith o arddangos gwaith disgyblion
Bod yn ymwybodol o broblemau/cynnydd/llwyddiannau disgyblion ac adrodd i'r athro fel y cytunwyd
Cadw cofnodion am y disgyblion yn ôl yr angen
Cynorthwyo'r athro i reoli ymddygiad disgyblion, gan adrodd am anawsterau fel y bo'n briodol
Casglu/adrodd am wybodaeth i/gan rieni/gofalwyr fel bo angen
Darparu cymorth clercaidd / gweinyddol e.e. ffotocopïo, teipio, ffeilio, casglu arian ac ati.

Cymorth o ran y cwricwlwm

Cynorthwyo disgyblion i ddeall cyfarwyddiadau
Cynorthwyo disgyblion mewn perthynas â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol e.e. llythrennedd, rhifedd, CA3, Blynyddoedd Cynnar, Cwricwlwm i Gymru o dan gyfarwyddyd yr athro
Cynorthwyo disgyblion i arfer sgiliau TGCh sylfaenol yn ôl y cyfarwyddyd
Paratoi a chynnal a chadw offer/adnoddau o dan gyfarwyddyd yr athro a chynorthwyo disgyblion wrth eu defnyddio

Cymorth i'r Ysgol

Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â nhw, gan roi gwybod am unrhyw bryderon i unigolyn priodol.
Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi, a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd i ddysgu a datblygu
Cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol
Sicrhau y cydymffurfir â Chod Ymddygiad Cynorthwywyr Addysgu Ysgol Uwchradd Darland
Gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill
Mynychu cyfarfodydd perthnasol yn ôl y gofyn, unwaith yr wythnos
Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu a datblygu perfformiad eraill yn ôl yr angen
Cynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio disgyblion y tu allan i wersi, gan gynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod amser cinio
Mynd gyda'r staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, tripiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol fel y bo'n ofynnol

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.

About Us - Wrexham County Borough Council

Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.