MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £26,824 - £28,595 Pro Rata | Grade 4
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cymorth yr Ysgol Lefel 2 - Ysgol Gyfun Croesyceiliog
Torfaen Local Authority
Cyflog: £26,824 - £28,595 Pro Rata | Grade 4
Dros dro, cyfnod mamolaeth tan 31 Rhagfyr 2026Mae swydd wag wedi codi yn ein tîm gweinyddol prysur. Gan weithio fel aelod gwerthfawr o'r staff cymorth yma, yng Nghroesyceiliog, mae'r rôl hon yr un mor hanfodol o ran lles disgyblion a staff ac o ran rhedeg ein hysgol yn llyfn.
Swyddog Cymorth yr Ysgol, sydd wedi'i leoli yn ein swyddfa weinyddol fawr a'n derbynfa, yw'r pwynt cyswllt cyntaf i'r sawl sy'n ymweld â'r ysgol. Mae'n hanfodol felly, bod y person a benodir i'r swydd hon yn canolbwyntio ar gwsmeriaid, yn gyfeillgar ac yn groesawgar, yn gallu amldasgio, yn gallu gweithio'n hyblyg ac yn meddu ar agwedd 'gallaf wneud' wrth fwrw ymlaen â'r gwaith. font-size:12pt">Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu delio ag ystod eang o bobl, gweithio'n dawel dan bwysau a ffynnu mewn amgylchedd gwaith prysur. font-size:12pt">Mae'n ofynnol i Swyddogion Cymorth yr Ysgol gwblhau tasgau gweinyddol amrywiol ac felly mae angen lefel dda o sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ynghyd â sgiliau TG da.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn wydn, yn hygyrch, yn weithgar ac yn gallu gweithio'n dda yn rhan o dîm yn ogystal â defnyddio eu menter eu hunain. Mae'r gallu i ffurfio a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol yn hanfodol. font-size:12pt">Mae llawer o'n staff blaen y tŷ wedi'u hyfforddi i roi cymorth cyntaf, a byddem yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus a fyddent yn barod i ymgymryd â rhai cyfrifoldebau cymorth cyntaf yn rhan o'u rôl.
Mae'n ofynnol i'n tîm gweinyddol hefyd weithio yn yr ystafell argraffu ar adegau. Mae hyn nid yn unig yn darparu gwasanaeth hanfodol ond y mae hefyd yn rhoi cyfle i'n staff amrywio rhannau o'u patrwm gwaith ac ychwanegu at eu sgiliau. font-size:12pt">Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol prysur, ac efallai y bydd ganddo brofiad o weithio mewn amgylchedd ysgol.
Mae ein tîm gweinyddol yn brofiadol, caredig, gweithgar ac mae ganddynt ystod eang o sgiliau a chyfrifoldebau. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno âr tîm hwnnw a defnyddio'r sgiliau a'r profiad sydd gennych neu i ennill rhai newydd. font-size:12pt">Os ydych chi'n rhywun sy'n hoffi bod yn brysur, canolbwyntio ar gwsmeriaid a mwynhau delio â phobl, mae'n bosib mai chi yw'r union berson yr ydym yn chwilio amdano.
Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli. font-size:12pt">Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.