MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid - Ail Lefel

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad
Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid - Ail Lefel
Lefel Cyntaf y Cydgyngor Trafod Telerau (JNC), Pwyntiau Ystod 8 i 11

(£24,799.00 - £27,434.00 pro rata)

14.8 awr yr wythnos.

Tasgau penodol i'r swydd -
  • Cefnogi datblygiad a gweithrediad Senedd yr Ifanc a'i grŵp rheoli, hyrwyddo cyfranogiad gan ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg.
    Cydweithio gydag asiantaethau partner gan ddarparu cyfarwyddyd a chymorth i alluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol a chenedlaethol.
    Cefnogi cyfleoedd cyfranogi a phroses o wneud penderfyniadau ar y cyd gydag ysgolion uwchradd.
    Cefnogi cyfranogiad mewn hyfforddiant perthnasol i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyrâ chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.