MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 0AY
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 01 October, 2024
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 3

Cyngor Sir Fynwy
Edrychwn am ymarferydd sy’n ysbrydoli ac sy’n angerddol am wneud
gwahaniaeth i brofiadau bywyd plant, a all feithrin a grymuso dysgwyr i gyflawni
eu potensial llawn.
Bydd gennych ddisgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad; herio pob plentyn i
gyflawni eu gorau glas. Gyda’ch egni a’ch ymroddiad i fynd yr ‘ail filltir’, byddwch
yn llunio dyfodol ein hysgol mewn cytgord gyda’n ethos a’n gweledigaeth.
Rydych yn credu mewn gwelliant parhaus ar gyfer eich hun fel ffordd o gyflawni’r
gorau oll ar gyfer plant a theuluoedd ein cymuned.
Ein gweledigaeth yn Ysgol Gynradd Gilwern yw ein bod yn ddysgwyr creadigol
sy’n annibynnol, gyda chymhelliant ac yn perthyn i’n cymuned. Bydd eich rôl yma
yn hanfodol i ddod â’r weledigaeth yn fyw. Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3,
bydd eich swydd yn amrywiol a diddorol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus
fod yn hyblyg, gan weithio ar draws yr ysgol – o gefnogi disgyblion yn y
dosbarth, i weithio gyda nhw mewn grwpiau bach, ar sail un-i-un a llanw dros
oruchwyliaeth pan fo angen.
JOB REQUIREMENTS
Sut fyddwn ni’n gwybod os mai chi yw’r person cywir ar gyfer y swydd? Fel yr ymgeisydd llwyddiannus byddwch wedi dangos:-

Profiad
• Gweithio gyda neu ofalu am blant o oedran perthnasol.
• Gweithio pan fo angen gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.

Cymwysterau
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.
• NVQ/QCF Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth, e.e. RNIB, cymhwyster Lefel 1 BSL.
• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu.
• Hyfforddiant cymorth cyntaf fel sy’n briodol.

Gwybodaeth/Sgiliau
• Gwybodaeth waith lawn o bolisïau/cod ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
• Gwybodaeth waith o’r Cwricwlwm Cenedlaethol a rhaglenni dysgu eraill perthnasol.
• Dealltwriaeth o egwyddorion prosesau datblygu a dysgu plant ac, yn neilltuol, rwystrau i ddysgu.
• Gallu i gynllunio camau gweithredu effeithlon ar gyfer disgyblion sydd mewn risg o dangyflawni.
• Dealltwriaeth lawn o’r ystod o wasanaethau/darparwyr cymorth.
• Gallu i hunan-werthuso anghenion dysgu a mynd ati i edrych am gyfleoedd dysgu.
• Gallu i ymwneud yn dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio’n adeiladol a hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall rolau a chyfrifoldebau ystafell ddosbarth a’ch safle eich hun o’u mewn.
• Gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau’n ymwneud â cynhwysiant, amddiffyn plant, diogelu, iechyd, diogelwch a sicrwydd, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu person priodol am bob mater o gonsyrn.

Cafodd penodiad i’r swydd hon ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae angen gwiriad datgelu DBS a dau eirda ysgrifenedig addas cyn penodiad.

Byddai sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol
Gall fod angen i chi ddysgu neu wella eich sgiliau presennol drwy fynychu hyfforddiant yn y Gymraeg y bydd y Cyngor yn talu amdano ar gyfer staff. Caiff hyn ei weithredu os oes angen am sgiliau yn y Gymraeg yn codi yn y swydd.