MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £14,255 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 2 Ysgol Eifionydd, Porthmadog

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £14,255 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau: 4ydd Tachwedd 2024 (Neu cyn gynted a phosib)

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 UN I UN

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 25 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£14,021 - £14,255 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.

Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD MAWRTH, 1 O HYDREF, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn

Manylion Person

Profiad
•Gweithio gyda phlant o'r oedran briodol neu ofalu amdanynt.
•Gweithio ar gais gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.

Cymwysterau
•Sgiliau rhif/llythrennedd da.
•NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth, e.e. RNIB, cymhwyster BSL Lefel 1.
•Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu.
•Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol.

Gwybodaeth/Sgiliau
•Deunydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
•Defnyddio offer a thechnoleg sylfaenol arall, e.e. fideo, llungopïwr.
•Deall polisïau /côd ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
•Dealltwriaeth gyffredinol o gyfnod cenedlaethol/sylfaenol, llwybrau cwricwlwm 14-19, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo'n briodol.
•Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn.
•Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
•Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS SWYDD
•Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
•Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
•Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.

PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
•Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
•Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
•Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol âr gweithdrefnau a pholisiau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
•Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
•Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
•Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
•Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
•Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.
•Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.

Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
•Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
•Cysylltu âr athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
•r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
•Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
•Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
•Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
•Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
•Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
•Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.
• rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
•Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
•Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd âr cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
• strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
•r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
•Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytøCysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
•Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

Cefnogaeth i'r Ysgol
•Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
•Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
•Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
•Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
•Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
•Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
•Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi