MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,968 - £35,302
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Rheolwr Cyflenwi - Ysgol Uwchradd y Frenhines Eisabeth

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £30,968 - £35,302

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 845

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Lleoliad: Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Gradd: Gradd G +4%

Cyflog: £30,968 - £35,302

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr: £16.05 - £18.29

Oriau Contract: 37

Dewch i ymuno â'n tîm
Yn ofynnol ar gyfer Tachwedd, Rheolwr Clawr sy'n frwdfrydig ac yn gymwysedig i gefnogi ar draws yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â theulu ysgol sy'n ffynnu.

Rydyn ni'n ymroi i ddarparu profiadau heriol a dymunol i'n disgyblion i gyd ac yn chwilio am unigolyn sy'n danbaid ac yn gallu tanio a herio ein dysgwyr.

Rydyn ni'n ysgol uwchradd gymysg sy'n ffynnu wedi'i lleoli yn nyffryn Tywi (dim ond 30 munud o Abertawe). Mae'r ysgol yn darparu addysg flaengar o safon uchel ac yn ymroi i awyrgylch caredig a meithringar lle mae disgyblion yn ffynnu'n academaidd ac yn bersonol. Wrth feithrin diwylliant ysgol gyfan o ofal dysgu gydol oes ac arweinyddiaeth gweledigaethol rydyn ni'n falch i osod y safon o ran addysg a pharatoi ein disgyblion ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Os rydych chi'n awyddus i wneud gwahaniaeth sylweddol ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, hoffem glywed oddi wrthoch.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad a'r ysgol cysylltwch â Nigel Cooke, Rheolwr Busnes - nigel.cooke@qehs.carms.sch.uk

Disgrifiad Swydd: 034311.pdf - 256KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 30/09/2024, 09:00

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.