MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £29,064 - £32,061 Pro Rata | Grade 5
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen

Torfaen Local Authority

Cyflog: £29,064 - £32,061 Pro Rata | Grade 5

37 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn

Agorodd Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen ym mis Mehefin 2009 i ddarparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n wynebu anawsterau cymdeithasol, emosiynol a/neu ymddygiad, y rheiny sydd wedi cael eu gwahardd yn barhaol neu sy'n aros am symudiad wedi'i reoli, neu'r rheiny y mae eu gorbryder neu anghenion meddygol yn eu hatal rhag mynd i'r ysgol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion i benodi cynorthwyydd addysgu L3 deinamig a llawn ysbrydoliaeth. Rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gydnerth, yn greadigol ac yn hyblyg, gydag awydd i ddod yn aelod allweddol o dîm yr ysgol. Bydd y rôl yn golygu gweithio o dan arweiniad y staff addysgu ac aelodau o Dîm Uwch-arweinwyr yr Ysgol er mwyn cefnogi'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm yn CA3 a CA4.

Byddwch yn gweithio o dan arweiniad, i roi cymorth i fynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr y mae angen cymorth penodol arnynt i oresgyn rhwystrau at ddysgu. Byddwch yn cefnogi unigolion a grwpiau o fyfyrwyr i alluogi mynediad at ddysgu a chynorthwyo'r athro i reoli myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Weithiau byddwch yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb byrdymor yr athro. Gall gwaith allgymorth dod i gyswllt ag ysgol brif ffrwd ac ymweld â hi hefyd fod yn rhan o'r rôl hon

Bydd gennych NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cywerth. Mae amynedd, dealltwriaeth, agwedd ofalgar a'r gallu i roi cymorth a meithrin cydberthnasoedd cadarnhaol yn hanfodol yn y rôl hon.

Byddwch yn chwaraewr tîm sy'n gallu trefnu a chynllunio eich amser eich hun gyda symbyliad. Os ydych chi'n cael eich ysgogi gan y ffordd y mae plant yn dysgu ac yn gallu ysbrydoli ein plant, yna edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Gan fod hon yn swydd ar gyfer y tymor ysgol yn unig, rhaid cymryd gwyliau pan fydd yr ysgol ar gau. Bydd y broses benodi yn cynnwys cyfweliad gydag aelodau o dîm arwain yr ysgol a detholiad o Aelodau'r Pwyllgor Rheoli.

Os oes gennych y brwdfrydedd a'r awydd i weithio mewn amgylchedd blaengar ac arloesol, byddai Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen yn croesawu eich cais. Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth, Sarah Pugh neu'r rheolwr Cynhwysiant, Viv Hunt ar 01495 742859.

Dyddiad Cau: Dydd Sul 19 Ebrill 2026

Tynnu Rhestr Fer: Dydd Llun 20 Ebrill 2026

Cyfweliadau: Dydd Gwener 24 Ebrill 2026

Wrth wneud cais, gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio'r adran Datganiad Ategol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.