MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + 1 AAA
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/athrawes (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + 1 AAA

Athro/athrawes (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Graddfa Gyflog Athrawon + 1 AAA
Athro/athrawes i ddechrau Ym mis Tachwedd 2024 - Cyfnod Cyflenwi Mamolaeth
Mae Ysgol Penmaes yn ysgol arbennig sy'n darparu addysg i 112 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed.
Mae'r ysgol wedi'i lleoli yn Aberhonddu ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Powys. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion ag amrywiaeth eang o anawsterau dysgu. Mae'r rhain yn cynnwys
anawsterau dysgu difrifol (SLD), anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD) ac anawsterau dysgu dwys a lluosog(ADDLl). Mae gan bob disgybl Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun
Datblygu Unigol. Yn ogystal â'r ddarpariaeth yn ein prif ysgol fe wnaethom agor darpariaeth lloeren yn Crossgates, Llandrindod, ym mis Medi 2021. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu addysg unigol a chynhwysol iawn i'w holl ddisgyblion, gyda phwyslais ar ddiwallu eu hanghenion unigol a datblygu eu cryfderau a'u diddordebau mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar. Rydym yn ceisio penodi athro rhagorol sy'n frwd dros weithio ym maes anghenion addysgol arbennig (AAA). Swydd dros gyfnod
mamolaeth yw hon sy'n dechrau ym mis Tachwedd 2024. Mae hwn yn gyfle rhagorol i ennill profiad mewn ysgol hynod effeithiol.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn llawn cymhelliant, yn arloesol, yn hyblyg ac yn meddu ar dystiolaeth o fod wedi gweithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion cymhleth. Bydd gan yr ymgeisydd angerdd dros ddatblygu ac ehangu potensial ein disgyblion a'n tîm staff drwy gydnabod a meithrin rhinweddau a chryfderau unigol.
Mae'r disgyblion yn ceisio penodi athro/athrawes sy'n:
● deg, cyfeillgar ac yn gallu eu helpu i ddysgu mewn gwahanol ffyrdd;
● hwyl a model rôl cadarnhaol;
● gwrandäwr da sy'n gweithredu ar eu safbwyntiau ac yn dweud wrthynt pan fyddant yn gwneud yn dda.
Mae'r llywodraethwyr yn ceisio penodi athro/athrawes sydd:
● yn brofiadol, yn hynod ymroddedig a brwdfrydig;
● yn gallu gweithio'n effeithiol gyda disgyblion ag amrywiaeth eang o anghenion dysgu;
● yn hyblyg, yn drefnus, ac yn gallu arwain timau dosbarth yn hyderus
● sydd â thystiolaeth o fod wedi codi safonau ar draws pob maes dysgu.
Mae'r Pennaeth yn ceisio penodi athro/athrawes a all:
● arwain, datblygu a gwella addysgu a dysgu yn yr ysgol wrth ysbrydoli disgyblion a staff.
● monitro a gwerthuso canlyniadau disgyblion .
● gwahaniaethu i safon uchel gan sicrhau y darperir ar gyfer anghenion pob disgybl
● codi safonau ac ymdrechu i weithredu ar flaenoriaethau gwella ysgolion
● glynu a bolisi ac arfer
● hunan-fyfyrio ac arloesi
Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir gael profiad sylweddol o weithio gyda disgyblion sydd ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol mewn lleoliadau arbenigol. Fel rhan o'r rôl bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus arwain maes(meysydd) dysgu a phrofiad (fel y nodir yn y Cwricwlwm newydd i Gymru). Dylai ymgeiswyr nodi'n glir eu cryfder o ran meysydd yn eu llythyr cais. Rhaid i'r llythyr cais ategol fynd i'r afael â'r holl feini prawf hanfodol, yn ôl y manylion ym manyleb y person.
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi ddarparu dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded gwaith yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996. Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd. Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaet