MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Ysgol Golwg Pen y Fan - Campus Cradoc)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr

Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Ysgol Golwg Pen y Fan - Campus Cradoc)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Uwch Dîm Rheoli, cefnogi prosesau gweinyddol, ariannol a threfniadaethol yn yr ysgol a chynorthwyo i gynllunio a datblygu gwasanaethau cefnogi i staff addysgu a disgyblion. Goruchwylio tîm bach o staff clercyddol / gweinyddol. (Lle y bo'n briodol) Rhywfaint o gyfrifoldeb cyllidebol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill, os o gwbl, er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Mae gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol am drin arian, prosesu sieciau, anfonebau neu bethau tebyg, ac mae'n atebol am hyn, ac mae'n atebol am gyllideb fechan.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb uniongyrchol am adnoddau ffisegol, gan gynnwys trin a phrosesu gwybodaeth mewn modd gofalus, cywir, cyfrinachol a diogel.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS