MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Parhaol Yn Yr Uned Adnodd Dysgu - Ysgol Nant y Groes

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY





YSGOL NANT Y GROES

Ffordd Greenfield , Bae Golwyn LL29 8ET

Pennaeth: Mr Huw Jones

Ffôn: (01492) 577010

Yn eisiau erbyn mis Hydref 2024

ATHRO/ATHRAWES PARHAOL

YN YR UNED ADNODD DYSGU

Mae Llywodraethwyr Ysgol Nant y Groes yn dymuno penodi Athro/Athrawes llawn cymhelliant a brwdfrydig gyda phrofiad perthnasol o addysgu yn y Cyfnod Sylfaen fel athro/athrawes yn yr uned adnodd dysgu.

Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr dybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English