MANYLION
- Lleoliad: Nantgarw Campus,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4/5 £25,314.00 - £30,294.00 (Pro-rata CALl
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa 4/5 £25,314.00 - £30,294.00 (Pro-rata CALl
Hyfforddwr Cyflogaeth ILSSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Mae'r cwricwlwm ILS wedi bod drwy ddiwygiad mawr gyda dysgwyr bellach yn dilyn rhaglenni astudio heb eu hachredu sy'n canolbwyntio ar dargedau a nodau unigol. Bydd deiliad y swydd yn atebol i Bennaeth yr Ysgol Mynediad Galwedigaethol. Byddant yn gyfrifol am weithio gydag unigolion a grwpiau bach mewn lleoliadau ymarferol ar y campws ac yn y gymuned i gefnogi cyflwyno'r piler cyflogaeth o dan y cwricwlwm ILS o Lwybrau 2 i 4.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected] .uk