MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 23,114 *
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: 23,114 *
Ynglŷn â'r rôlMaer ysgol yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol sy n meddu ar sgiliau rhyngbersonol dda i ymgymryd âr swydd uchod yn yr Adran Gynnal.
Mae Penweddig yn ysgol lwyddiannus, sydd â hanes o welliant a datblygiad. Mae nifer sylweddol o'n disgyblion yn sicrhau canlyniadau TGAU a Lefel A sydd yn uwch nag ysgolion cyffelyb.
Mae ymddygiad ein disgyblion yn dda iawn, ac mae ganddynt ymagwedd bositif ac ysgogol at ddysgu. Cyniga'r ysgol gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Mae Penweddig yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.
Disgrifiad Swydd
Gweithio (yn annibynnol ar brydiau) o dan arweiniad uwch aelodau or staff/staff addysgu er mwyn ymgymryd â rhaglenni gwaith/gofal/cefnogi/allanol (mewn meysydd arbenigol) i alluogi mynediad at ddysgu ir disgyblion ac i gynorthwyo'r athro neu'r athrawes gyda rheolaeth y disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gall y gwaith ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth neu oddi allan i'r prif leoliad addysgu.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r ysgol ar 01970639499 neu ar ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy