MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP77DG
  • Testun: Gofalwr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Safle, Crefftwr

Cyngor Sir Fynwy
Mae’r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Safle Ysgol am dri diwrnod (dyddiau Mercher, Iau a Gwener) i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon ac ymuno â’n tîm cyfeillgar ac ymroddedig. Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer contractwyr, Iechyd a Diogelwch a glanhau a bydd yn dod yn gyfrifol am ddelio gyda gwaith cyffredinol cynnal a chadw ysgolion a gwasanaethau.

Ein Pwrpas:-
Mae Ysgol Gynradd Cantref yn ysgol fywiog, hapus, gyfeillgar a llwyddiannus. Mae staff yn dymuno i’n holl blant ddod yn unigolion hyderus, sicr, gofalgar sy’n cyflawni llwyddiant personol ac yn datblygu cariad at ddysgu. Mae llesiant staff a phlant yn greiddiol i ethos ein hysgol. Mae Ysgol Gynradd Cantref yn ysgol sy’n parchu hawliau. Mae plant ac oedolion yn cydweithio i gydnabod a gweithredu ar hawliau’r plentyn o fewn ein hysgol, ein cymuned leol a’r byd yn ehangach. Drwy ddeall eu hawliau eu hunain, credwn fod plant yn dysgu parchu a gwerthfawrogi hawliau pobl eraill.



Pwrpas y Swydd hon:-

Mae angen y swydd i gynnal ein hamgylchedd dysgu egnïol yn yr ysgol a hefyd ar diroedd yr ysgol.

Disgwyliad a Chanlyniadau’r Swydd hon:-
Cynnal pob cofrestr statudol Iechyd a Diogelwch, cwblhau cynnal a chadw ar adeiladau’r ysgol a thiroedd yr ysgol, monitro systemau gwresogi a dŵr, ymgymryd â glanhau ardaloedd penodol o’r ysgol, rheoli mynediad i Heol Harold yn ystod y bore a’r prynhawn, ymgymryd â hyfforddiant fel sydd angen, i gefnogi’r Corff Llywodraethu, Pennaeth Ysgol a’r holl staff wrth gynnal amgylchedd ysgol egnïol, cyffrous a diogel. Bydd angen i chi ddangos y gallu i weithio’n gefnogol ac yn effeithiol mewn tîm yn ogystal ag yn arloesol ac yn annibynnol. Byddai profiad o weithio mewn cynnal a chadw ysgolion yn fanteisiol, er y gellir rhoi hyfforddiant.

Eich cyfrifoldebau yw:-

Cynnal a Chadw Safle
• Cynnal gwiriadau diogelwch a chofnodi yn rheolaidd.
• Darparu gwasanaeth peintio i safle’r ysgol, cwblhau rhaglen addurno ar raglen dreigl drwy gydol y flwyddyn.
• Darparu gwasanaethau saer coed i gynnal a chadw drysau, fframiau, sgyrtin ac eitemau eraill a all fod angen eu trwsio neu gynnal a chadw ataliol.
• Trwsio a chynnal a chadw eitemau o gelfi ar safle’r ysgol.
• Darparu dyletswyddau plymio cyffredinol, lle’n briodol (a phosibl).
• Gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau’n gysylltiedig â diogelu plant, iechyd a diogelwch, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu unigolyn priodol am bob mater o gonsyrn.
• Trwsio a gosod teils llawr a nenfwd newydd, lle’n briodol.
• Bod ym ymroddedig i hyfforddi a datblygu sgiliau i wella effeithlonrwydd yn yr ysgol.
• Dynodi blaenoriaethau ar gyfer trwsio a chynnal a chadw.
• Sicrhau y cedwir yr holl offer mewn cyflwr gwaith da ac yn ddiogel pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.
• Cynnal stoc a chyflenwadau i gyflawni tasgau’n briodol lle mae angen.
• Cwblhau dyletswyddau glanhau i safon uchel.
• Hysbysu Pennaeth/Dirprwy Bennaeth yr ysgol am unrhyw ddiffygion sy’n effeithio ar iechyd a diogelwch unigolion ar y safle.

Cyffredinol
• Gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau yn ymwneud ag amddiffyn plant, diogelwch a sicrwydd, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu person priodol am bob mater o gonsyrn.
• Gwneud dyletswyddau glanhau rheolaidd mewn rhannau penodol o’r ysgol.
• Gwybod am a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau cyfle cyfartal ar gyfer pawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/nodweddion cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel sydd angen.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, datblygu perfformiad fel sydd angen.
• Gwneud unrhyw ddyletswyddau rhesymol yn ôl cais Pennaeth/Dirprwy Bennaeth yr ysgol yn gymesur gyda’r swydd.

Cyfrifoldebau
• Gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau yn ymwneud ag amddiffyn, plant, iechyd, diogelwch a sicrwydd, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu’r pennaeth am bob mater o gonsyrn.
• Gwybod am a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel sydd angen.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad fel sydd angen.