MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Safle Cyn - Ysgol (Dechrau'n Deg) (Ysgol Trefonnen)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
Cynorthwyydd Safle Cyn - Ysgol (Dechrau'n Deg) (Ysgol Trefonnen)Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Trefonnen yn ysgol ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol ac sydd â'i chalon yn y gymuned, blant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai drwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl
ddisgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn ysgol (cyfrwng Saesneg), Cylch Meithrin (grŵp cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg), dau leoliad
Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Bwyd a Hwyl Gwyliau'r Haf sy'n fuddiol i'r plant ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
CYNORTHWY-YDD DECHRAU'N DEG (CYFNOD PENODOL)
18.5 awr yr Wythnos - cyn gynted â phosibl tan 31 Mawrth 2025
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i Gynorthwyydd Dechrau'n Deg ymuno â'n tîm dibynadwy, gweithgar ac effeithlon.
Rydym yn chwilio am gynorthwy-ydd sydd:
• wedi ennill cymhwyster lefel 3 sy'n cael ei gydnabod ar restr gyfredol Cyngor
Gofal Cymru o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar
• â dealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion blynyddoedd cynnar ac a
• Fyddai'n:
➢ cyfrannu at gynllunio a chadw cofnodion.
➢ goruchwylio a rhyngweithio'n effeithiol â phlant yn ystod y sesiynau.
➢ cefnogi plant yn gyson gan gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
➢ hyrwyddo cynhwysiant.
Y patrwm gwaith ar gyfer y rolau hyn yw:
18.5 awr Dechrau'n Deg - Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9.15 - 12.15 (9.15 - 1.15 ar Ddydd Gwener i ganiatáu ar gyfer cynllunio tîm)
Dyddiad cau: 27.9.24
Dyddiadau creu rhestr fer a chyfweld: I'w gadarnhau
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r ysgol ar 01597 822190 neu
[email protected]