MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £12.00 yr awr - Yn gymesur â Graddfeydd Tâl Prentisiaid Presennol
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Prentis Cynorthwy-ydd Gofal Plant Dechrau'n Deg (Ysgol Maesyrhandir)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: £12.00 yr awr - Yn gymesur â Graddfeydd Tâl Prentisiaid Presennol
Prentis Cynorthwy-ydd Gofal Plant Dechrau'n Deg (Ysgol Maesyrhandir)Swydd-ddisgrifiad
Prif Bwrpas y Swydd:
Prentisiaeth sy'n arwain at fod yn gymwysedig mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori.
Cynorthwyo i ddatblygu a darparu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel.
Prif Gyfrifoldebau:
Mae'r canlynol yn amlinellu prif gyfrifoldebau'r rôl a fydd yn cael ei chyflawni gyda chefnogaeth Goruchwylydd a mentor(iaid):
1. Cynorthwyo Arweinydd y Lleoliad i gynllunio, adolygu a chyflwyno profiadau o ansawdd da sy'n seiliedig ar chwarae
2. Cyfrannu at ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y
lleoliad lle gall plant a gofalwyr deimlo eu bod yn cael eu
gwerthfawrogi
3. Trafod a rhyngweithio â phlant, gan fodelu iaith briodol i gefnogi
datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu plant
4. Annog datblygiad sgiliau meddwl yn gynnar a datrys problemau
drwy fodelu arfer meddwl ar y cyd parhaus
5. Darparu cefnogaeth i blant yn ôl cyfarwyddyd Arweinydd y Lleoliad - gallai gynnwys darllen stori neu helpu gydag anawsterau corfforol wrth annog annibyniaeth (e.e. gyda glanweithdra personol, gwisgo esgidiau ac ati).
6. Rhoi cysur fel y bo'n briodol a threfnu gofal ar unwaith ar gyfer mân ddamweiniau, pryderon ac anhwylderau ac adrodd am broblemau difrifol ac achosion tybiedig o berygl neu risg i iechyd i Arweinydd y Lleoliad.
7. Cynorthwyo i reoli'r amgylchedd dysgu o ddydd i ddydd.
8. Cyfrannu at gadw cofnodion - e.e. darparu gwybodaeth lafar
berthnasol i gyfrannu at y cynllunio, arsylwi, gwerthuso ac adnabod y cam nesaf yn nysgu'r plant.
9. Rhoi adborth i Arweinydd y Lleoliad am y profiadau dysgu, yr
ymatebion iddynt a'r gefnogaeth a ddarperir.
10.Modelu strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol yn seiliedig ar raglen y Blynyddoedd Rhyfeddol.
11.Ymgymryd â thasgau gweinyddol arferol.
Mae gofyniad Gwirio Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar
gyfer y swydd hon.