MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1(Ysgol Golwg Pen y Fan)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £22,737 i £23,114 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.78 i £11.98 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1(Ysgol Golwg Pen y Fan)Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr.
Am y rôl:
Cynorthwyo staff addysgu ym mhroses datblygu ac addysgu disgyblion a'u helpu i ofalu am y disgyblion, eu cefnogi a'u goruchwylio. Mae deiliad y swydd yn cael cyfarwyddyd gan yr athro dosbarth ac yn atebol i'r athro dosbarth.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu y ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio rywfaint ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill. Gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol. Gall ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin a defnyddio offer yn ofalus a'i lanhau (e.e. cyfrifiadur / deunyddiau / adnoddau addysgu).
Cefnogi'r cwricwlwm: Cefnogi dysgu'r disgyblion fel y cyfarwyddir gan yr athro dosbarth, yn unol ag egwyddorion arfer da ac fel y diffinnir gan y fframweithiau cwricwlwm ar gyfer cyfnodau
perthnasol, i feithrin annibyniaeth a hunan-barch (e.e. modelu defnyddio iaith sy'n briodol i'r dasg, hwyluso trafodaethau a rhyngweithiadau, annog y disgyblion i fyfyrio ynghylch eu gwaith)
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS