MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athraes Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Maes y Llan
Rhiwabon
LL14 6AE
(01978) 820991
mailbox@maesyllan-pri.wrexham.sch.uk
Pennaeth: Mrs Beth Rolls

Athro rhan amser dros dro
14.40 awr yr wythnos
Blwyddyn 1/2
I ddechrau ddydd Llun 4 Tachwedd 2024 - 31 Awst 2025
MPR/UPR
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Maes-y-Llan yn dymuno penodi athro cydwybodol a brwdfrydig gyda'r cymwysterau addas i ategu at ethos cadarnhaol a gofalgar yr ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
brofiad perthnasol o'r Cyfnod Sylfaen
brwdfrydedd dros ddatblygu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored
disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad disgyblion
y gallu i gydweithio gyda staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni
dealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Croesawir ymweliadau â'r ysgol ymlaen llaw. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch âr Pennaeth ar y rhif ffôn uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
mailbox@maesyllan-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

CYFWELIADAU/ARSYLWI GWERS: Yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 30 Medi 2024