MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Golwg Pen y Fan)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Golwg Pen y Fan)Swydd-ddisgrifiad
Hysbyseb Swydd Hyrwyddwr Plant y Fyddin ar gyfer Clwstwr Aberhonddu
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer rôl newydd yn Aberhonddu. Cafodd y cyfle hwn ei ariannu gan grant a lleolir y swydd yn Ysgol Golwg Pen y Fan gan gefnogi plant a theuluoedd y Fyddin mewn sawl ysgol sydd â phlant y Fyddin ar eu cofrestr.
Fel rhan o'r rôl hon mae'r ysgolion am ddarparu cymorth personol i blant y Fyddin sydd o dan ein gofal. Mae ein cymuned Lluoedd Arfog yn unigryw ac amrywiol, a bydd y rôl hon yn cefnogi plant y Fyddin gyda'u hanghenion personol gan gynnwys: codi ymwybyddiaeth o anghenion plant y Fyddin, meithrin perthnasoedd, ymgymryd â gweithgareddau cydweithredol a dysgu, cymorth anghenion dysgu ychwanegol a chymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant y Fyddin sy'n pontio i mewn ac allan o'n hysgolion. Byddech yn eiriolwr dros blant y Fyddin wrth iddynt bontio, tyfu a datblygu yn ystod eu hamser gyda ni.
Bydd y rôl hon hefyd yn cynnwys cysylltu ag asiantaethau'r Lluoedd Arfog yn lleol a'r
rhwydwaith ehangach i sicrhau partneriaeth gydweithredol i gefnogi anghenion plant y
Lluoedd Arfog e.e. Little Troopers, Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg yng Nghymru, y
Gweithlu Darllen a Thîm Ymgysylltu'r Fyddin. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos at staff a
rhieni ac o dan oruchwyliaeth aelod o'r uwch dîm arweinyddiaeth.
Croesewir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol drwy apwyntiad ymlaen llaw gyda'r
Pennaeth ac maent yn cael eu hannog, Mrs Sarah Court,
Ffôn: 01874 623038
E-bost: [email protected]
Am ffurflenni cais a manylion pellach ffoniwch 01597 826409; neu e-bostiwch:
[email protected] : neu gwnewch gais ar-lein yn www.powys.gov.uk.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad DBS Manylach